Ar ôl cyhoeddi canlyniadau pob cyfres arholiadau, mae CBAC yn cynnig dewis o wasanaethau ar ôl y canlyniadau, yn cynnwys:
 
Ail-wiriad clercyddol – ail-wiriad o’r holl weithdrefnau clercyddol sy’n arwain at gyhoeddi canlyniad
 
Adolygu'r marcio ar ôl y canlyniadau – adolygiad o'r marcio gwreiddiol i sicrhau bod y cynllun marcio y cytunwyd arno wedi’i ddefnyddio'n gywir
 
Mynediad at sgriptiau – fersiwn electronig o'r sgript
 
Adolygu'r cymedroli ar ôl y canlyniadau – adolygu'r cymedroli gwreiddiol er mwyn sicrhau bod y meini prawf asesu wedi'u cymhwyso'n deg, yn ddibynadwy ac yn gyson
 
Rhaid i’r ganolfan gofrestru gyflwyno ceisiadau am y gwasanaethau hyn. Rhaid i ymgeiswyr felly siarad â’r ysgol neu’r coleg os ydyn nhw am wneud cais am Wasanaeth ar ôl y Canlyniadau. Mae Gwybodaeth i Ymgeiswyr Preifat i’w gweld ar waelod y dudalen hon.
 
Mae cyngor ac arweiniad ar gael yn y dogfennau canlynol:
 
 
Mae CBAC yn dilyn yr un gweithdrefnau ym mis Ionawr â gweithdrefnau'r CGC ar gyfer cyfresi Mehefin a Thachwedd.
 
Os ydych chi am gael mynediad at sgriptiau, neu am gyflwyno cais am adolygiad o farcio neu gymedroli, gall canolfannau wneud hynny ar-lein drwy Porth.
 
Os oes gan ymgeiswyr preifat unrhyw bryderon am ganlyniadau eu harholiadau ac os ydynt yn dymuno gwneud cais am adolygiad, neu os ydynt yn dymuno cael mynediad at sgriptiau, dylent gysylltu â'r ganolfan sydd wedi'u cofrestru am gymorth. Gall ymgeiswyr preifat hefyd wneud cais yn uniongyrchol i CBAC drwy ofyn am ffurflen gais gan GAC@cbac.co.uk.
 
             
            
            
                
    Caiff tystysgrifau eu rhyddhau i ganolfannau tua 12 wythnos ar ôl cyhoeddi canlyniadau.
 
Gall canolfannau newid manylion personol ymgeiswyr a gofrestrir am gymwysterau CBAC hyd at y Dyddiadau Cau Argraffu Tystysgrifau, heb dalu costau ychwanegol. 
 
- Cyfres Tachwedd – 31 Ionawr
- Cyfres Ionawr – 31 Mawrth
- Cyfres Mehefin – 9 Medi
 
Os oes angen diwygio'r dystysgrif o fewn y 12 mis cyntaf i'w chyhoeddi, rhaid i ganolfannau ddychwelyd y dystysgrif wreiddiol, ynghyd â nodyn byr yn amlinellu'r diwygiad arfaethedig, i'r cyfeiriad canlynol: 
 
TGAU / TAG / Adran Llwybrau [Dileu adran fel y bo'n briodol] 
CBAC
245 Rhodfa'r Gorllewin 
Caerdydd
CF5 2YX 
 
Os na dderbyniodd y ganolfan y dystysgrif wreiddiol, neu os cafodd ei cholli neu ei difrodi cyn i'r ymgeisydd ei derbyn, cysylltwch â'r timau canlynol i gael cyngor pellach: 
 
TGAU: tgau@cbac.co.uk  
UG/Safon Uwch: tag@cbac.co.uk  
Lefel Mynediad, Llwybrau Mynediad, Lefel 1/2 a 3: llwybrau@cbac.co.uk  
 
Yna, bydd tystysgrif wreiddiol newydd yn cael ei dosbarthu i'ch canolfan (ni chaiff ei hanfon yn uniongyrchol at yr ymgeisydd). Bydd tâl am y gwasanaeth hwn. Gweler ein llyfryn ffioedd am wybodaeth pellach.
 
Rhaid i ganolfannau ddilyn yr holl reoliadau sy'n ymwneud â derbyn, dosbarthu a chadw tystysgrifau fel yr amlinellir yn Rheoliadau Cyffredinol y CGC.