e-Asesu

Mae'r adran hon yn darparu gwybodaeth am e-asesu a gynigir gennym. Mae'n cynnwys beth ydyw, pa bynciau sydd ar gael a pham ddylai eich canolfan ystyried e-Asesu.

 

Beth yw e-asesu?

 

Mae e-Asesu yn cynnwys defnyddio TGCh; gan ganiatáu i arholiadau gael eu sefyll a'u marcio ar sgrin, a chael gwared ar yr angen am bapur a beiro. Cynigir rhai pynciau gennym gydag e-asesu fel opsiwn. Mae rhai eraill yn orfodol. Lle mae e-asesu yn opsiwn, nid oes unrhyw wahaniaeth yn y cynnwys rhwng y fersiwn ar sgrin a'r fersiwn papur.

 

Pa bynciau sydd yn cael eu cynnig â e-asesu?

 

Rydym yn cynnig e-asesiad yn y pynciau canlynol:

Pam ddylai eich canolfan ystyried e-asesu?

 

Ar gyder eich ymgeiswyr:

 

  • Wrth astudio, mae nifer o fyfyrwyr yn gallu cynhyrchu llawer o'u gwaith gan ddefnyddio cyfrifiadur. Gan eu bod ar gyfrifiadur, mae e-asesiadau yn galluogi ymgeiswyr i sefyll arholiadau yn eu ffordd arferol o weithio, sy'n aml yn teimlo'n fwy cyfforddus iddynt.
  • Mae'r gallu i olygu gwaith ar y sgrin yn caniatáu i fyfyrwyr adolygu eu hymatebion a gwneud newidiadau yn unol â hynny, gan eu galluogi i gyflwyno sgript clir a darllenadwy.
  • Gall sefyll arholiad drwy e-asesu fod o fudd i'r myfyrwyr hynny sydd yn ei chael yn anodd cyflwyno papur arholiad darllenadwy oherwydd eu llawysgrifen. Drwy deipio, mae modd darllen yr atebion.
  • Mae'n bosibl y bydd rhai myfyrwyr yn teimlo'n fwy positif wrth sefyll arholiad sy'n defnyddio technoleg yn hytrach na phapur a beiro traddodiadol.
  • Pam fo sain yn rhan sylfaenol o arholiad, mae e-asesu o gymorth sylweddol; Cyfathrebu Busnes Byd-eang, er enghraifft. Caiff sain ei ddarparu ar sail unigol, trwy glustffonau, gan helpu i leihau sŵn cefndir a chaniatáu i'r myfyrwyr ganolbwyntio.
  • Mae gan y feddalwedd a ddefnyddir nifer o opsiynau lliw er mwyn helpu i gynorthwyo myfyrwyr gyda gofynion gweledol.

 

Ar gyfer eich canolfan:

 

  • Bydd eich canolfan yn cael mynediad am ddim at fanc o gyn-bapurau. Mae'r banc ar gael ar unrhyw adeg drwy feddalwedd a ddarperir gennym yn rhad ac am ddim, a gellir ei ddefnyddio at nifer o bwrpasau fel ffug arholiadau, profion ymarfer ac ati.
  • Gall arholiadau nad ydynt yn fyw, profion ymarferion a ffug gael eu marcio gan y ganolfan os mai dyma ddymuniad y ganolfan. Mewn rhai achosion, bydd y feddalwedd yn marcio rhai cwestiynau yn awtomatig sy'n lleihau faint o farcio sydd angen i'r athro ei wneud. Bydd y canlyniadau'n ymddangos ar ryngwyneb gweinyddol y feddalwedd yn syth ar ôl marcio.
  • Mae'n haws rheoli amser gan fod amser yn cyfrif i lawr yn awtomatig yn y profion, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael yr holl amser a ganiateir ar eu cyfer. Ar gyfer arholiadau byw a phrofion ffug/ymarfer, gellir neilltuo amser ychwanegol ar gyfer eich myfyrwyr lle bo hynny'n briodol.
  • Ar gyfer arholiadau byw e-asesu, mae cryn dipyn o waith gweinyddol yn digwydd yn awtomatig. Fe fydd yr arholiadau ar gael i chi ar y dyddiad penodol a drefnwyd. Pan fydd myfyriwr wedi gorffen, neu pan fydd ei amser wedi dirwyn i ben, fe fydd ei sgript yn cael ei ddanfon yn awtomatig atom. Mae hyn yn osgoi'r angen i gasglu a danfon sgriptiau. Bydd y sgrin weinyddol yn rhoi gwybod i chi pa sgriptiau rydym wedi'u derbyn.

 

Hoffech chi wybod mwy?

 

Rydym yn annog canolfannau a myfyrwyr i ddefnyddio ein hasesiadau ar sgrin. Ar gyfer pynciau lle mae hyn yn ddewisol, ni fydd treialu e-asesu yn eich ymrwymo mewn unrhyw ffordd i'w ddefnyddio ar gyfer arholiadau byw. Rydym yn sylweddoli nad yw e-asesu'n addas i bawb ac os ydych chi a'ch myfyrwyr yn penderfynu nad yw'n addas, yna bydd y dewis papur ar gael o hyd. Efallai y bydd rhai o'ch myfyrwyr yn elwa ar sefyll arholiadau ar sgrin, a rhai eraill yn parhau i sefyll arholiadau papur. Mae'n hollol dderbyniol i chi gyfuno'r ddau fformat.

 

Fodd bynnag, ar gyfer pynciau lle mae e-asesu yn orfodol, mae'n rhaid iddo gael ei ddefnyddio.

 

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

 

Gwirio gofynion caledwedd:

 

Rydym yn defnyddio'r llwyfan SecureAssess i weinyddu asesiadau ar sgrin. Mae'r arholiadau eu hunain yn rhedeg trwy ein meddalwedd SecureClient rhad ac am ddim. Bydd angen gosod y feddalwedd ar bob un o'r cyfrifiaduron yn eich canolfan. Gwnewch yn siŵr fod eich cyfrifiaduron yn bodloni'r gofynion caledwedd a restrir yn y ddogfen ganlynol: Gofynion caledwedd

 

Cyfrifon defnyddwyr:

 

Os ydych chi'n bodloni'r gofynion caledwedd, yna i ddechrau defnyddio e-asesu yn eich canolfan, dylech gysylltu a e-assessment@wjec.co.uk.  

 

Gosod meddalwedd:

 

Gyda'r cyfrifon a grëwyd, bydd eich adran TG yn cael mynediad er mwyn llwytho'r feddalwedd SecureClient i lawr, i'w gosod ar eich cyfrifiaduron. Bydd angen gosod y feddalwedd cyn i chi allu rhedeg unrhyw arholiadau ar sgrin.

 

Pan fydd SecureClient wedi cael ei osod, byddwch yn gallu trefnu a rhedeg eich profion ymarfer, ar sail y cyn-bapurau sydd ar gael. Ar hyn o bryd, cewch ddefnyddio'r system yn ddiderfyn, ac mae ar gael drwy gydol y flwyddyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am e-asesu, cysylltwch â'r Tîm e-asesu ar 029 2026 5328 neu e-bostiwch e-assessment@wjec.co.uk.