Polisi Preifatrwydd


Mae'r polisi hwn yn rhoi manylion am y ffordd y byddwn yn defnyddio a storio eich gwybodaeth. Mae'r cyfeiriad 'Ni' yn y polisi hwn yn cyfeirio at WJEC CBAC Ltd.

 

Gwybodaeth a Gasglwyd

WJEC CBAC Ltd yw unig berchennog y wybodaeth a gasglwyd ar y safle hwn. Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth fel eich enw, manylion cyswllt (cyfeiriad post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost), teitl swydd, cymwysterau a chynnyrch o ddiddordeb, data am y tudalennau yr ydych yn ymweld â nhw ar ein gwefan yn ogystal â gwybodaeth bilio a cherdyn credyd ar gyfer e-fasnach.

Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu yn ystod cofrestru ar e-bost. Os ydych yn anfon e-bost atom, byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ymateb. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth pan fyddwch yn ymweld â'r wefan ac yn rhyngweithio arni. Rydym yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth bersonol ac mae eich defnydd parhaus o'r wefan yn nodi eich bod yn hapus i dderbyn cwcis CBAC. I ddysgu mwy, ewch ar ein tudalen Cwcis.

Rydym yn derbyn gwybodaeth yn awtomatig gan eich cyfrifiadur fel eich cyfeiriad I.P, porwr rhyngrwyd a dyfais a ddefnyddiwyd i gael mynediad at y wefan. Defnyddir y wybodaeth hon i fonitro traffig, gwella'r cynnwys a'r ffordd mae'n cael ei arddangos i chi.

Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon negeseuon e-bost wedi'u targedu am ein cynnyrch a'n gwasanaethau, a defnyddio mewnwelediadau o'r data hyn i wella'r cynnyrch a'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.

 

Cysylltu a Chyfathrebu

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych wedi dewis ei roi i ni i gyfathrebu dros e-bost ac i ymateb i ymholiadau yr ydych wedi'u cyflwyno i weithwyr. Ni fydd WJEC CBAC Ltd yn cyfathrebu dros e-bost gyda chi os ydych wedi dewis peidio derbyn y rhain. Bydd unrhyw negeseuon e-bost y byddwch yn eu derbyn yn cynnwys cyswllt i 'ddiweddaru eich dewisiadau' ar ddiwedd pob neges e-bost. Yma gallwch newid y math o gyfathrebu y byddwch yn ei dderbyn gennym neu ddileu eich tanysgrifiad yn llwyr. Fel arall, gallwch hefyd gysylltu â Marketing&Communications@wjec.co.uk i dynnu eich enw oddi ar ein rhestri postio. Mae Swyddogion Arholiadau dan orfodaeth i ddarparu manylion cyswllt ar gyfer cofrestru canolfan.

 

Rhannu Gwybodaeth Bersonol

Ni fyddwn byth yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol. Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda gwefannau trydydd parti fel Google Analytics a thrydydd partïon fel eich cyflogwr, canolfan, darparwr rhyngrwyd neu orfodi'r gyfraith. Hefyd, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol fel manylion cyswllt gyda chanolfannau eraill ar ôl derbyn eich caniatâd.

 

Diogelu Data

Rydym yn cymryd rhagofalon i ddiogelu eich gwybodaeth. Rydym yn defnyddio mesurau diogelwch ar ein systemau ein hun i ddiogelu eich data ar-lein a phan nad ydych ar-lein. Mae'r cyfrifiaduron a'r gweinyddion lle rydym yn storio gwybodaeth bersonol ganfyddadwy yn cael eu cadw mewn amgylchedd diogel. Byddwn yn trin unrhyw wybodaeth bersonol sy'n cael ei chasglu trwy'r wefan yn unol â Deddf Diogelu Data 1998.

 

Diweddaru'r Polisi

Mae WJEC CBAC Ltd yn cadw'r hawl i ddiweddaru'r polisi hwn ar unrhyw amser a bydd y fersiwn mwyaf diweddar o'r polisi yn cael ei roi ar y wefan hon.

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd a gweithdrefnau diogelu data, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost at gwybodaeth@cbac.co.uk.