Angen tystysgrif newydd neu gadarnhau canlyniadau?

Gweithdrefnau ar gyfer dosbarthu tystysgrifau

Bydd eich ysgol neu goleg yn derbyn tystysgrifau arholiadau ymhen 12 wythnos ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau. Yna, byddan nhw'n penderfynu ar y ffordd fwyaf priodol o'u dosbarthu nhw i'w myfyrwyr. 

 

Os nad ydych chi wedi cael eich tystysgrif arholiadau, cysylltwch â'ch ysgol neu goleg yn y lle cyntaf. Ond cofiwch, dim ond am un flwyddyn ar ôl y dyddiad dosbarthu y mae'n ofynnol iddyn nhw gadw tystysgrifau heb eu hawlio. 

 


 

Tystysgrifau Newydd

 

Cysylltwch â'ch ysgol neu goleg gydag ymholiadau neu am gyngor ynghylch tystysgrifau a roddwyd o fewn y cyfnod o 12 mis.



Cadarnhau Canlyniadau: Llythyr Cadarnhad Electronig 


Ar hyn o bryd, darperir cadarnhad o'r cymwysterau ar ffurf Llythyr Cadarnhad Electronig a gaiff ei dderbyn gan y rhan fwyaf o Brifysgolion/Colegau a chyflogwyr yn y DU a thramor. Mae'n cynnwys yr un wybodaeth â'r Datganiad Ardystio Canlyniadau (Tystysgrif Newydd) ond mae ar ffurf llythyr gyda'n logos ac wedi'i lofnodi gan ein Cyfarwyddwr Gwasanaeth Asesu. Gellir ei anfon dros e-bost atoch chi ac/neu'n uniongyrchol at drydydd parti (e.e. Prifysgol/Coleg/Cyflogwr) o'ch dewis oddi wrth ein cyfeiriad e-bost ni, er mwyn sicrhau darpariaeth gyflymach.

 

Cyn i chi wneud cais, sicrhewch fod y gwasanaeth hwn yn bodloni eich gofynion a gofynion y corff sy'n gofyn am gadarnhad o'ch cymwysterau. Os oes angen copi wedi'i argraffu o'r Datganiad Ardystio Canlyniadau (Tystysgrif Newydd) arnoch yn hytrach na'r Llythyr Cadarnhad Electronig, cadarnhewch y cais hwn drwy tystysgrifaunewydd@cbac.co.uk.

 

Rydym yn sylweddoli bod eich cais yn un brys, ac am y rheswm hwn mae pob cais yn cael ei brosesu yn ôl trefn dyddiad gaeth. Dylech ganiatáu 6 wythnos i brosesu eich ffurflen gais, ond gwneir pob ymdrech i brosesu cyn gynted â phosibl.