Mae gwybodaeth ynghylch dyddiadau arholiadau, terfynau amser asesu mewnol a chyfnodau asesu eraill ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol wedi'u cyhoeddi yn ein dogfen Amserlenni Arholiad a Therfynau Amser Asesu Mewnol. Bydd unrhyw amserlenni terfynol sydd ar gael ac wedi'u cyhoeddi ar gyfer cyfresi arholiadau yn y dyfodol hefyd yn ymddangos ar y dudalen hon.
Mae Gweithgor Amserlenni Cyffredin y CGC, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o gyrff AQA, CCEA, OCR, Pearson, CBAC a'r CGC, yn gyfrifol am gynhyrchu amserlenni arholiadau cyffredin dros dro a therfynol ar gyfer cyfresi arholiadau Tachwedd a Mehefin.
Mae rhagor o wybodaeth am lunio'r amserlen gyffredin ar gael yma ar wefan y CGC.
Cyhoeddir amserlenni dros dro ar gyfer cyfres arholiadau TGAU mis Tachwedd y flwyddyn ddilynol erbyn 31 Hydref. Mae'n rhaid e-bostio centresupport@jcq.org.uk gydag unrhyw sylwadau, arsylwadau neu i awgrymu newidiadau i'r amserlen erbyn 30 Tachwedd fan hwyraf, i'w hystyried gan Weithgor Amserlenni Cyffredin y CGC.
Cyhoeddir amserlenni dros dro ar gyfer cyfres arholiadau Mehefin y flwyddyn ddilynol erbyn 28 Chwefror. Mae'n rhaid e-bostio centresupport@jcq.org.uk gydag unrhyw sylwadau, arsylwadau neu i awgrymu newidiadau i'r amserlen erbyn 30 Ebrill fan hwyraf, i'w hystyried gan Weithgor Amserlenni Cyffredin y CGC.