e-Gyflwyno

E-Gyflwyno yw'r broses o gyflwyno gwaith ymgeiswyr ar ffurf electronig i'w gymedroli neu ei asesu. Rydym yn defnyddio Surpass ac/neu IAMIS (ein System Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol), sy'n llwyfannau gwe diogel ar gyfer y broses hon.


Bydd angen i bersonél y ganolfan sy'n gyfrifol am gyflwyno marciau NEA yn electronig gael mynediad i IAMIS, sydd bellach trwy'r mewngofnodi newydd i'r Porth. (Pob gwasanaeth > Arholiadau ac Asesu > Asesiad Mewnol/Canlyniadau Marciau).


I gael gwybod pa system y mae eich pwnc yn ei defnyddio, cyfeiriwch at eich tudalen pwnc neu'r canllawiau pwnc isod.

> Y Broses E-Gyflwyno (Surpass) - Canllaw Pynciau

> E-Gyflwyno (uwchlwytho ar IAMIS) – Canllaw Pynciau

 

  • Surpass
  • Uwchlwytho IAMIS
I gael arweiniad cyffredinol ar y broses e-Gyflwyno, defnyddiwch ein hofferyn Cwestiynau Cyffredin ar waelod ochr dde'r sgrin. Os oes angen cymorth arnoch o hyd gallwch gysylltu â'r tîm drwy: e-bost: e-submission@cbac.co.uk neu Ffôn: 02922 404 310