Ffiniau Graddau

Ffiniau graddau yw'r nifer isaf o farciau y mae eu hangen i ennill pob gradd. Er bod papurau arholiad yn cael eu hysgrifennu i'r un lefel o anhawster, maen nhw'n amrywio bob blwyddyn. Mae ffiniau graddau yn sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn yr un radd ar gyfer yr un lefel o berfformiad, pryd bynnag caiff yr arholiad ei sefyll.

Ar gyfer manylebau unedol, mynegir ffiniau graddau ar Raddfa Marciau Unffurf (UMS). Mae ffiniau graddau GMU yn aros yr un fath bob blwyddyn gan nad yw amrediad y canrannau marciau GMU a ddyrennir i radd benodol yn newid. Mae ffiniau graddau GMU yn cael eu cyhoeddi ar lefel gyffredinol y pwnc a'r uned.

 

> Gallwch chi weld ffiniau graddau unedau a gwybodaeth ynglŷn â throsi marciau crai yn GMU yn ein Trawsnewidydd Graddau yma


Gyda manylebau llinol, dyfernir un radd am y pwnc yn gyffredinol, yn hytrach nag ar gyfer pob cydran/uned sy'n cyfrannu tuag at y radd gyffredinol. Cyhoeddir ffiniau graddau ar ddiwrnod y canlyniadau.

Mae'r ffiniau graddau 'tybiannol' ar gyfer pob cydran hefyd ar gael o 8am ar ôl diwrnodau cyhoeddi canlyniadau. Mae ffiniau graddau yn 'dybiannol' a bwriedir iddyn nhw fod yn arweiniad yn unig. Nid graddau swyddogol ydyn nhw.


Mae ystadegau cenedlaethol yn cael eu llunio a'u cyhoeddi gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ), sefydliad aelodaeth sy'n cynnwys y saith darparwr mwyaf o gymwysterau yn y DU.