Er mwyn cynnig cymwysterau, mae'n rhaid i ganolfannau gael cymeradwyaeth y ganolfan a chadw at Amodau Cyffredinol CBAC a Rheoliadau perthnasol y CGC. I weld mwy o wybodaeth am ein gofynion a sut i ddod yn ganolfan CBAC, gweler y wybodaeth isod.
Er mwyn cynnig ein cymwysterau, mae'n rhaid i ganolfan gael ei chymeradwyo fel canolfan gan CBAC. Mae'r broses gymeradwyo yn cynnwys llenwi'r ffurflen(ni) cais perthnasol ac asesiad o allu'r ganolfan i fodloni gofynion CBAC a rhai perthnasol y CGC.
Os yw eich canolfan eisoes yn cynnig Cymwysterau Cyffredinol ac wedi derbyn rhif canolfan (NCN), darllenwch Amodau i Ganolfannau Cofrestredig CBAC, Telerau Busnes CBAC, a chysylltwch â ni i ofyn am ffurflen gais.
Os ydych chi'n sefydliad newydd, darllenwch y dogfennau canlynol cyn cysylltu â ni i drafod eich canolfan arfaethedig:
Cyswllt cymeradwyo canolfannau:
029 2026 5077
canolfannau@cbac.co.uk
Amodau cofrestru canolfannau
Rhaid i ganolfannau cymeradwy CBAC gadw at yr Amodau Cyffredinol ar gyfer Canolfannau CBAC, Telerau Busnes CBAC, a rheoliadau priodol y CGC.
Rhaid i bob canolfan gymeradwy CBAC sydd â Rhif Canolfan Cenedlaethol (NCN) gwblhau'r datganiad blynyddol a anfonir gan NCN. Bydd methu â gwneud hyn yn arwain at atal cofrestriad CBAC.
Newid manylion Swyddog Arholiadau neu Bennaeth Canolfan
Lle mae newid Swyddog Arholiadau neu Bennaeth Canolfan, dylai canolfannau ddiweddaru'r wybodaeth drwy'r botwm 'Gweinyddu'r Cyfrif' ar y wefan ddiogel.
Rhaid i ganolfannau sydd heb fynediad at gyfrif y gweinyddwr ddarparu manylion diweddaraf y Swyddog Arholiadau a gwneud cais i ailosod cyfrinair mewn llythyr, ar bapur â phennyn y ganolfan, wedi'i lofnodi gan aelod o'r Uwch Dîm Rheoli. Gellir e-bostio hwn at securewebsite@wjec.co.uk.
Newid enw'r ganolfan
Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid i enw'r ganolfan i'r Gofrestr Rhifau Canolfan Cenedlaethol (NCNR) drwy e-bostio ncn@ocr.org.uk.
Newid cyfeiriad neu gyfleuster storio diogel
Rhaid rhoi gwybod i'r Gofrestr Rhifau Canolfan Cenedlaethol (NCN) yn syth am unrhyw newid i gyfeiriad canolfan neu gyfleuster storio diogel. Yna bydd yr NCN yn rhoi gwybod i'r cyrff dyfarnu ac yn trefnu bod gwasanaeth arolygu'r CGC yn cynnal arolygiad.
Gwrthdaro Buddiannau
Rhaid rheoli gwrthdaro buddiannau yn y canolfannau a dylid hysbysu CBAC yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y CGC.
> Canllawiau Gwrthdaro Buddiannau Staff y Ganolfan CBAC 2023-24
Mae ffurflen electronig Gwrthdaro Buddiannau Staff y Ganolfan CBAC i'w gweld dan y tab Gweinyddu Canolfannau ar Porth CBAC.
Mae gan Gyrff Dyfarnu reswm cyfreithiol dros ofyn am y wybodaeth hon gan ganolfannau, ond mae'n rhaid i ganolfannau sicrhau eu bod yn casglu a chyflwyno'r wybodaeth hon yn unol â'u hysbysiad preifatrwydd eu hunain.
Mae gwybodaeth ynghylch camymddwyn ar gael yn ein dogfen Canllaw i atal, adrodd am ac ymchwilio i gamymddwyn a Canllaw i athrawon - Atal camymddwyn mewn asesiadau mewnol.
Rhaid rhoi gwybod i CBAC am bob achos o gamymddwyn honedig neu wirioneddol. Os bydd ymgeiswyr yn camymddwyn, mae'n bosibl y cânt eu cosbi neu eu diarddel o'r arholiadau.
Ym mhob achos o gamymddwyn, cynghorir canolfannau i ddilyn cyngor llyfryn y CGC Amau Camymddwyn: Polisïau a Gweithdrefnau.
Gosodiad Chwythu'r Chwiban
Os ydych yn credu eich bod wedi gweld achos o gamymddwyn mewn arholiadau ac asesiadau, dylech roi gwybod yn y lle cyntaf i Bennaeth eich Canolfan, sydd â dyletswydd i ymchwilio i bob achos o'r fath a rhoi gwybod amdanynt. Os ydych yn credu y cewch eich trin yn annheg am godi materion o'r fath gyda Phennaeth eich Canolfan, neu os ydych yn teimlo bod eich Uwch Dîm Rheoli yn rhan o'r achos, cewch gysylltu â ni yn uniongyrchol.
Mae cyrff dyfarnu'n awyddus bod achosion o gamymddwyn yn cael eu hadrodd ac maen nhw'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gamymddwyn i roi gwybod amdano. Os ydych chi am aros yn ddienw, caiff hyn ei barchu, oni bai bod corff dyfarnu o dan rwymedigaeth gyfreithiol i roi gwybod pwy yw'r person sy'n gwneud yr honiad.
Dylech fod yn ymwybodol na ellir defnyddio gwybodaeth sy'n cael ei darparu'n ddienw fel tystiolaeth. Fodd bynnag, gall gwybodaeth o'r fath fod yn sail i ymchwiliad, neu roi achos tebygol dros ymchwilio; er mwyn cefnogi unrhyw ymchwiliad posibl byddai'n well pe baech yn darparu'r holl wybodaeth sydd gennych ar yr un pryd, yn hytrach nag ychwanegu gwybodaeth yn ddiweddarach, os yn bosibl.
Os oes gennych wybodaeth ynghylch camymddwyn, gallwch gysylltu â Thîm Camymddwyn CBAC yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.
Adran Camymddwyn
CBAC
245 Rhodfa'r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YX
E-bost: camymddwyn@cbac.co.uk
Ffôn: 029 2026 5351
Er mwyn i ni allu ymchwilio'n effeithiol, mae’n ddefnyddiol cael cymaint o wybodaeth â phosibl am y digwyddiad; i'r perwyl hwn byddai'n ddefnyddiol pe byddech yn benodol ynghylch yr hyn oedd yn gamymddwyn, pwy oedd wedi'i gyflawni, pwy a elwodd ohono, pryd a lle y digwyddodd a phwy, os yn briodol, all fod yn dyst iddo.
Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol ynghylch gwneud honiad a chamymddwyn ar wefan y CGC.
Ni fydd cyrff dyfarnu yn adrodd canlyniad achosion wrth y sawl sy'n gwneud yr honiadau. Byddai gwneud hynny yn datgelu gwybodaeth freintiedig sy'n aml dan amodau'r Ddeddf Diogelu Data.
Mae Gwasanaeth Arolygu Canolfannau'r CGC (CIS) yn arolygu'r holl ganolfannau arholiadau cofrestredig sy'n cynnig cymwysterau y mae'r llyfryn Cyfarwyddiadau ar Gynnal Arholiadau (ICE) yn ymdrin â nhw. Dylai pob canolfan ddisgwyl ymweliad o leiaf unwaith y flwyddyn gan CIS y CGC.
Rhaid i ganolfannau sicrhau bod yr holl leoliadau a ddefnyddir ar gyfer arholiadau ac asesiadau, cofnodion a chyfleusterau storio diogel ar gael i'w harchwilio. Bydd arolygwyr canolfannau'r CGC yn dangos cerdyn ID a rhaid bod aelod o staff y ganolfan gyda nhw drwy gydol eu hymweliad.
Os nad yw canolfan yn ymateb i geisiadau gan Wasanaeth Arolygu Canolfannau'r CGC, neu'n methu â datrys materion agored, ni fydd cyrff dyfarnu yn danfon deunyddiau asesu diogel at y ganolfan honno. Yn y pen draw, mae'r corff dyfarnu yn cadw'r hawl i dynnu cymeradwyaeth y ganolfan yn ôl.
Gwasanaeth Arolygu Canolfannau’r CGC yng Nghymru
Mae CBAC yn gweinyddu'r Gwasanaeth Arolygu Canolfannau yng Nghymru ar ran holl gyrff dyfarnu'r CGC. Os ydych chi'n gyn-swyddog arholiadau ac yr hoffech gael eich ystyried i arolygu canolfannau yng Nghymru, anfonwch eich CV i jcqinspectionservice@wjec.co.uk.
> Dewch yn arolygydd ar gyfer y CGC