Y Broses Arholiadau

Rydym yn datblygu manylebau cymwysterau a deunyddiau enghreifftiol er mwyn bodloni gofynion a nodir gan adrannau'r llywodraeth yng NghymruLloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cymwysterau'n cael eu cymeradwyo, eu hachredu neu eu dynodi gan y rheoleiddwyr perthnasol, Ofqual (Lloegr), Cymwysterau Cymru (Cymru) a CCEA (Gogledd Iwerddon). Mae ein cymwysterau CBAC ac Eduqas yn cael eu rheoleiddio gan Ofqual, Cymwysterau Cymru a CCEA.

 

Ein rôl yn y system arholiadau

 

Arholiadau ac asesiadau

 

Rhaid i ni ddarparu asesiadau dilys sydd wedi'u marcio/cymedroli'n ddibynadwy er mwyn sicrhau safonau o un gyfres arholiadau i'r nesaf.

 

Egwyddorion cyffredinol sy'n sylfaen i gyflwyno asesiadau CBAC

 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar ôl y canlyniadau i ganolfannau ac ymgeiswyr preifat, yn unol â gofynion rheoleiddio. Rydym hefyd yn darparu data arholiadau i ysgolion a cholegau sy'n cofrestru dysgwyr ar gyfer ein cymwysterau. Yn ogystal, rydym yn cefnogi athrawon drwy ein hadnoddau digidol am ddim, Adolygu Arholiadau Ar-lein, ac adroddiadau adborth arholwyr.

  • Gosod Y Fanyleb
  • Datblygu Asesiadau a Phapurau Arholiad
  • Hygyrchedd Papurau Arholiad
  • Gwallau mewn Papurau Arholiad
  • Torri Diogelwch
  • Marcio a Chymedroli Asesiadau
  • Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau
  • Y Broses Dyfarnu