Cefnogaeth o Bell

Mae CBAC yn defnyddio TeamViewer i gefnogi o bell. Gyda TeamViewer gall cynrychiolydd cefnogi CBAC edrych ar sgrin eich cyfrifiadur a chymryd rheolaeth o'ch cyfrifiadur.

Bydd TeamViewer yn defnyddio cysylltiad wedi'i amgryptio rhwng eich cyfrifiadur a CBAC, felly nid oes unrhyw fygythiad i ddata personol. Ni fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud i'ch system gyfrifiadurol heb eich caniatâd chi.

I ymuno â sesiwn gefnogi:

  1. Llwythwch y cleient i lawr (Windows) (Mac OS X)
  2. Rhedwch TeamViewerQS.exe
  3. Bydd eich cynrychiolydd cefnogi'n gofyn i chi am yr ID a'r cyfrinair sydd wedi'u harddangos yn y rhaglen.
  4. Bydd eich cynrychiolydd cefnogi'n awr yn gallu rheoli'ch sgrin.

Nodiadau

Mae angen i ddefnyddwyr Linux lwytho fersiwn lawn y cleient i lawr o'r wefan TeamViewer.

TeamViewer SupportOs yw'ch rhwydwaith yn defnyddio gweinydd dirprwyol (proxy server), efallai y bydd angen i chi roi eich gosodiadau dirprwyol i mewn. Cliciwch ar yr eicon Gosodiadau yn y rhaglen TeamViewer i wneud hyn.

Windows client MD5 - 724d29845427935155f4d09a08dd395b
Mac client MD5 - 79ad2e5eed9ad5aa9aed5109a3d50733