Hysbysfwrdd Swyddogion Arholiadau

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi Swyddogion Arholiadau a byddwn yn diweddaru'r rhan hon gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i'ch helpu i gynllunio a pharatoi ar gyfer y gyfres sydd i ddod.

 


 

Cyfres Mehefin 2023

 

Canlyniadau

 

Mae canlyniadau'n cael eu cyhoeddi'n electronig i ganolfannau drwy ffeiliau EDI a'r ddewislen 'Canlyniadau' ar y wefan ddiogel. Rhaid iddyn nhw gael eu cyhoeddi i ymgeiswyr yn unol â rheoliadau'r CGC. Mae gwybodaeth fanylach am gyhoeddi canlyniadau a'r gwasanaethau ar ôl y canlyniadau i'w chael yn ein cylchlythyr Canlyniadau a Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau, sydd i'w lawrlwytho yma.

 

Bydd dogfennau 'Canllawiau i Ganlyniadau' ar gyfer pob un o'n cymwysterau yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen canlyniadau ar ein gwefan.

 

Mae gwybodaeth i'ch staff, eich myfyrwyr, a'u rhieni neu ofalwyr ar gael o'n tudalennau diwrnod canlyniadau ar ein gwefan agored.

 

Cyhoeddir ffiniau graddau ar gyfer cymwysterau llinol am 8am ar bob diwrnod canlyniadau (dydd Iau 17 a dydd Iau 24 Awst 2023). Cofiwch hefyd fod angen cadw gwybodaeth am ganlyniadau (gan gynnwys ffiniau graddau) yn gyfrinachol tan ar ôl 8am ar bob diwrnod canlyniadau.

 

Atgoffir canolfannau â chofrestriadau Bagloriaeth Cymru yr ailgyhoeddwyd data sylfaenol ar ddechrau Gorffennaf er mwyn newid cyfanswm marciau GMU yr Heriau. Cofiwch wneud yn siŵr eich bod wedi mewnforio’r fersiwn diweddaraf hwn er mwyn osgoi cael problemau’n mewnforio ffeiliau canlyniadau.

 

Rydym yn gobeithio ein bod wedi darparu'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ond os oes gennych ymholiad nad yw wedi'i ateb, anfonwch e-bost at DiwrnodCanlyniadau@cbac.co.uk

 

Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau

 

Mae gwybodaeth am wasanaethau ar ôl y canlyniadau gan gynnwys ffioedd a therfynau amser i'w chael ar y dudalen gwasanaethau ar ôl y canlyniadau ar ein gwefan.

 

Yn newydd eleni mae ein gwasanaeth mynediad rhad ac am ddim at sgriptiau wedi'u marcio. Bydd manylion llawn ynghylch sut i gael mynediad at y gwasanaeth hwn yn cael eu hychwanegu at y wefan ddiogel. Mae angen caniatâd yr ymgeisydd cyn cyrchu sgriptiau.

 


 

Dyddiadau Allweddol

 

5 Gorffennaf – Dyddiad olaf i gyflwyno ceisiadau am ystyriaeth arbennig ar gyfer cyfres Mehefin 2023

 

5 Gorffennaf – Rhyddhau canlyniadau cyfres Mehefin 2023 yn gyfyngedig i ganolfannau (dan waharddiad) ar gyfer: Llwybrau Mynediad

 

6 Gorffennaf – Cyhoeddi canlyniadau cyfres Mehefin 2023 i ymgeiswyr ar gyfer: Llwybrau Mynediad

 

1 Awst – Dyddiad olaf i dderbyn ffeiliau EDI ar gyfer y rhan fwyaf o gymwysterau

 

16 Awst – Rhyddhau canlyniadau cyfres Mehefin 2023 yn gyfyngedig i ganolfannau (dan waharddiad) ar gyfer: TAG, Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol, Project Estynedig, Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, Tystysgrif Her Sgiliau – CBC Uwch ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol/ Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru)

 

17 Awst – Cyhoeddi canlyniadau cyfres Mehefin 2023 i ymgeiswyr ar gyfer: TAG, Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol, Project Estynedig, Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, Tystysgrif Her Sgiliau – CBC Uwch ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol/ Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru)

 

23 Awst – Rhyddhau canlyniadau cyfres Mehefin 2023 yn gyfyngedig i ganolfannau (dan waharddiad) ar gyfer: TGAU, Lefel 1/2 Dyfarniadau a Thystysgrifau Galwedigaethol, Lefel Mynediad, Lefel 1 a 2 Tystysgrifau (Lladin a Mathemateg Ychwanegol), Llwybrau Ieithoedd, Tystysgrif Her Sgiliau – Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen, Cymraeg Gwaith

 

24 Awst – Cyhoeddi canlyniadau cyfres Mehefin 2023 i ymgeiswyr ar gyfer: TGAU, Lefel 1/2 Dyfarniadau a Thystysgrifau Galwedigaethol, Lefel Mynediad, Lefel 1 a 2 Tystysgrifau (Lladin a Mathemateg Ychwanegol), Llwybrau Ieithoedd, Tystysgrif Her Sgiliau – Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen, Cymraeg Gwaith