Goruchwylio o Bell

Goruchwylio o Bell yw monitro ymgeisydd sy'n sefyll prawf ar sgrin, o leoliad o bell. Mae Goruchwylio o Bell yn defnyddio gwe-gam cyfrifiadur/gliniadur a microffon i fonitro/recordio'r unigolyn, yn ogystal â monitro'r hyn sy'n digwydd ar sgrin yr unigolyn.

 

Mae ein Gwasanaeth Goruchwylio o Bell Recordio ac Adolygu yn caniatáu i asesiad gael ei gynnal yng nghartref ymgeisydd (neu leoliad arall a ddewiswyd) heb oruchwyliwr yn yr un ystafell. Mae ein Gwasanaeth Goruchwylio o Bell yn cefnogi canolfannau i gynllunio a rheoli asesiadau ar adeg sy'n addas i'r ymgeisydd ac i’r ganolfan.

 

Corff o’r enw Talview sy’n lletya ein Gwasanaeth Goruchwylio o Bell ac mae’r dull hwn ar gael ar gyfer yr asesiadau canlynol:

  • C00/1238/5 CBAC Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd (Cwestiynau Dewis Lluosog)
  • C00/0724/6 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol – Lefel 1 (Prawf er mwyn Cadarnhau)
  • C00/0724/7 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol – Lefel 2 (Prawf er mwyn Cadarnhau)
  • C00/0724/8 Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol – Lefel 3 (Prawf er mwyn Cadarnhau)
  • C00/0724/9 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol – Lefel 1 (Prawf er mwyn Cadarnhau)
  • C00/0725/0 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol – Lefel 2 (Prawf er mwyn Cadarnhau)
  • C00/0725/2 Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol – Lefel 3 (Prawf er mwyn Cadarnhau)

Mae goruchwylio o bell yn opsiwn ychwanegol ar gyfer sefyll profion ar sgrin ac nid yw'n disodli'r gallu i sefyll y profion hyn wyneb yn wyneb yn y ganolfan.

 

Os hoffech chi fel canolfan gael gwybod mwy am oruchwylio o bell, dylech ddarllen drwy ein Canllaw i Ganolfannau yn gyntaf ac yna cysylltu â'n tîm e-asesu i drafod yn anffurfiol.