Cyn cyflwyno marciau, rhaid i ganolfannau sicrhau eu bod wedi dilyn eu gweithdrefn apelio mewnol. Rhaid rhoi gwybod i ymgeiswyr am eu marciau a asesir yn y ganolfan er mwyn iddyn nhw allu gwneud cais am adolygiad o farcio'r ganolfan cyn cyflwyno'r marciau i CBAC. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y CGC.
Terfynau Amser
Mae'r Terfynau Amser Asesu Mewnol i'w gweld ar dudalen Dyddiadau Allweddol ac Amserlenni CBAC.
Mewnbynnu, Cyflwyno a Diwygio Marciau Asesu Mewnol
Mae canolfannau yn mewnbynnu a chyflwyno marciau asesu mewnol drwy gyfleuster ar safle Porth o'r enw IAMIS (System Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol). Mae gan y Swyddog Arholiadau a defnyddwyr sy'n weinyddwyr fynediad awtomatig i IAMIS. Gall defnyddwyr eraill wneud cais am fynediad i IAMIS gan Swyddog Arholiadau a/neu ddefnyddwyr cyfrif Gweinyddu eu canolfan.
Fel arall, gellir cyflwyno marciau asesu mewnol drwy EDI. Gall ffeiliau EDI gymryd hyd at 72 awr i'w prosesu. Ar ôl hynny, bydd y marciau a gyflwynwyd yn cael eu llenwi'n awtomatig ar IAMIS. Mae gwybodaeth bellach am gyflwyno EDI ar gael drwy'r llinell gymorth ar 029 2026 5169.
Ar gyfer y ddau ddull (drwy'r wefan ddiogel neu EDI), bydd angen i ganolfannau fewnbynnu manylion grŵp addysgu pob ymgeisydd yn uniongyrchol ar IAMIS. Yna bydd rhaid cyflwyno'r marciau ar IAMIS er mwyn nodi'r sampl cymedroli.
Dylid cyfeirio at ein dogfen Asesu Mewnol: Canllaw i Ganolfannau am arweiniad pellach ynghylch cyflwyno marciau asesu mewnol.
Ar ôl i ganolfan gyflwyno'i marciau, cynhyrchir sampl cymedroli, a dangosir manylion y cymedrolwr ar IAMIS.
Cyflwyno samplau cymedroli
Mewn rhai pynciau mae'n ofynnol llenwi a chyflwyno taflenni clawr a ffurflenni datganiad. Rhaid cwblhau'r rhain ar gyfer yr holl ymgeiswyr nid y rhai yn y sampl yn unig, ac maen nhw i'w gweld ar dudalen hafan bob pwnc perthnasol.
Mae angen cyflwyno gwaith yn electronig ar gyfer rhai pynciau. Mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys y pynciau dan sylw, ar gael ar ein tudalen uwchlwytho e-gyflwyno.
Mae manylion llawn ynghylch y broses, yn cynnwys terfynau amser cyflwyno a gwybodaeth pwnc-benodol, ar gael yn ein dogfen Asesu Mewnol: Canllaw i Ganolfannau. Darperir deunyddiau 'Dosbarthu' ar sail cofrestriadau rhagarweiniol. Os oes angen deunyddiau pellach arnoch, e-bostiwch ymholiadaudosbarthu@cbac.co.uk.
Adroddiadau Cymedrolwyr
Gall canolfannau weld adroddiadau'r cymedrolwyr ar safle Porth. Cliciwch ar 'Pob Gwasanaeth', yna 'Arholiadau ac Asesiadau', yna 'Marciau/Canlyniadau Asesiad Mewnol'. Nesaf, dewiswch y gyfres arholiadau a chliciwch ar y botwm glas 'Adroddiad Cymedrolwr' i'w lawrlwytho.
Mae adroddiadau cymedrolwyr ar gael ar ddiwrnod y canlyniadau drwy'r System Mewnbynnu Marciau Asesu Mewnol (IAMIS). Byddant ar gael i'w gweld ac i'w llwytho i lawr yn unol â'r amserlen ganlynol:
|
Cyfres
|
Ar gael o
|
Ar gael tan
|
|
Mehefin
|
Diwrnod y Canlyniadau
|
Y Nadolig
|
|
Tachwedd
|
Diwrnod y Canlyniadau
|
Diwedd Chwefror
|
Consortiwm yw trefniant rhwng dwy ganolfan neu fwy i gynnig cymwysterau. Bydd ymgeiswyr o ganolfannau cofrestru gwahanol yn cael eu haddysgu a'u hasesu fel un grŵp. Dim ond ar gyfer unedau/cydrannau Asesu Di-arholiad (NEA) a asesir yn fewnol ac unedau/cydrannau penodol a asesir yn allanol y mae trefniadau consortiwm ar gael.
Trefniadau Consortiwm o Ganolfannau
Lle bydd dwy neu fwy o ganolfannau mewn consortiwm yn cofrestru ymgeiswyr ar gyfer gwaith a asesir yn y ganolfan, rhaid llenwi'r ffurflen Trefniadau Consortiwm o Ganolfannau ar Borth Gweinyddu Canolfannau'r CGC. Bydd hyn yn galluogi trin yr ymgeiswyr ar gyfer pob manyleb fel un grŵp ar gyfer cymedroli gwaith a asesir gan y ganolfan. Rhaid i ganolfannau roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau sylweddol i'r data ar y ffurflen hon ar ôl cyflwyno'r gwaith.
Cydlynydd Consortiwm o Ganolfannau
Rhaid i'r canolfannau dan sylw enwebu cydlynydd consortiwm a fydd yn cysylltu â’r corff dyfarnu perthnasol ar ran yr holl ganolfannau yn y consortiwm. Os oes cydlynydd gwahanol ar gyfer manylebau gwahanol, rhaid i ffurflen gael ei llenwi ar gyfer pob manyleb.
Mewn amgylchiadau lle mae manyleb yn cael ei haddysgu yn eich canolfan, ond bod rhai ymgeiswyr yn cael eu haddysgu a'u hasesu mewn canolfan arall, rhaid llenwi'r ffurflen consortiwm rhannol.
Gallwch weld ein Polisi consortia yma.