Porth

Mae Porth CBAC yn ardal ddiogel lle caiff ganolfannau fynediad at adnoddau a lle gallant gynnal prosesau gweinyddol yn ddiogel.

Gall canolfannau wneud cofrestriadau, mewnbynnu marciau asesiadau mewnol, gwneud cais am drefniadau mynediad a Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau, yn ogystal â gweld canlyniadau drwy safle Porth. 

 

 


Mynediad at Porth

 

Mae gan ganolfannau cymeradwy CBAC fynediad at safle Porth. Rhoddir un cyfrif arholwr gyda mynediad gweinyddol i ganolfannau. Gall y swyddog arholiadau wahodd 3 cyfrif gweinyddol. Bydd gan y cyfrifon gweinyddol hyn fynediad gweinyddol hefyd. Argymhellwn y mathau hyn o gyfrifon ar gyfer Penaethiaid Canolfannau, Uwch Arweinwyr, neu aelodau o dîm y Swyddfa Arholiadau.

 

Gall y swyddog arholiadau a deiliaid y cyfrifon gweinyddol wahodd defnyddwyr eilaidd. Nid oes cyfyngiad i nifer y defnyddwyr eilaidd y gall pob canolfan eu cael. Rydym yn argymell y mathau hyn o gyfrifon i aelodau o staff yn y ganolfan, h.y. athrawon.

 

Canllawiau Defnyddwyr

Cwestiynau Cyffredin

 

Gweler isod nifer o Gwestiynau Cyffredin i’ch cefnogi wrth i chi symud draw i Porth.