Er mwyn cynnig cymwysterau, mae'n rhaid i ganolfannau gael cymeradwyaeth y ganolfan a chadw at Amodau Cyffredinol CBAC a Rheoliadau perthnasol y CGC. I weld mwy o wybodaeth am ein gofynion a sut i ddod yn ganolfan CBAC, gweler y wybodaeth isod.
Er mwyn cynnig ein cymwysterau, mae'n rhaid i ganolfan gael ei chymeradwyo fel canolfan gan CBAC. Mae'r broses gymeradwyo yn cynnwys llenwi'r ffurflen(ni) cais perthnasol ac asesiad o allu'r ganolfan i fodloni gofynion CBAC a rhai perthnasol y CGC.
Os yw eich canolfan eisoes yn cynnig Cymwysterau Cyffredinol ac wedi derbyn rhif canolfan (NCN), darllenwch Amodau i Ganolfannau Cofrestredig CBAC, Telerau Busnes CBAC, a chysylltwch â ni i ofyn am ffurflen gais.
Os ydych chi'n sefydliad newydd, darllenwch y dogfennau canlynol cyn cysylltu â ni i drafod eich canolfan arfaethedig:
Cyswllt cymeradwyo canolfannau:
029 2026 5077
canolfannau@cbac.co.uk
Amodau cofrestru canolfannau
Rhaid i ganolfannau cymeradwy CBAC gadw at yr Amodau Cyffredinol ar gyfer Canolfannau CBAC, Telerau Busnes CBAC, a rheoliadau priodol y CGC.
Rhaid i bob canolfan gymeradwy CBAC sydd â Rhif Canolfan Cenedlaethol (NCN) gwblhau'r datganiad blynyddol a anfonir gan NCN. Bydd methu â gwneud hyn yn arwain at atal cofrestriad CBAC.
Newid manylion Swyddog Arholiadau neu Bennaeth Canolfan
Gall manylion y Swyddog Arholiadau gael eu diweddaru gan eich canolfan trwy Borth. Gweler ein canllaw i'r broses hon.
Os nad ydych yn gallu cael mynediad at gyfrif Porth sy'n gallu gwneud y newidiadau angenrheidiol, gallwn brosesu'r newidiadau os byddwch yn darparu cais ysgrifenedig. Rhaid i'r cais hwn:
·
- Cael ei ysgrifennu ar bapur â phennyn y ganolfan;
- Cynnwys un enw a chyfeiriad e-bost i gael eich cofrestru fel deiliad cyfrif Swyddog Arholiadau newydd;
- Cael ei lofnodi gan Bennaeth y Ganolfan (neu aelod arall o’r Uwch Dîm Rheoli os nad oes Pennaeth y Ganolfan ar gael).
Gellir e-bostio hwn at centres@wjec.co.uk
Newid enw'r ganolfan
Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid i enw'r ganolfan i'r Gofrestr Rhifau Canolfan Cenedlaethol (NCNR) drwy e-bostio ncn@ocr.org.uk.
Newid cyfeiriad neu gyfleuster storio diogel
Rhaid rhoi gwybod i'r Gofrestr Rhifau Canolfan Cenedlaethol (NCN) yn syth am unrhyw newid i gyfeiriad canolfan neu gyfleuster storio diogel. Yna bydd yr NCN yn rhoi gwybod i'r cyrff dyfarnu ac yn trefnu bod gwasanaeth arolygu'r CGC yn cynnal arolygiad.
Gwrthdaro Buddiannau
Rhaid rheoli gwrthdaro buddiannau yn y canolfannau a dylid hysbysu CBAC yn unol â Rheoliadau Cyffredinol y CGC.
> Canllawiau Gwrthdaro Buddiannau Staff y Ganolfan CBAC
Mae ffurflen electronig Gwrthdaro Buddiannau Staff y Ganolfan CBAC i'w gweld dan y tab Gweinyddu Canolfannau ar Porth CBAC.
Mae gan Gyrff Dyfarnu reswm cyfreithiol dros ofyn am y wybodaeth hon gan ganolfannau, ond mae'n rhaid i ganolfannau sicrhau eu bod yn casglu a chyflwyno'r wybodaeth hon yn unol â'u hysbysiad preifatrwydd eu hunain.
Mae Gwasanaeth Arolygu Canolfannau'r CGC (CIS) yn arolygu'r holl ganolfannau arholiadau cofrestredig sy'n cynnig cymwysterau y mae'r llyfryn Cyfarwyddiadau ar Gynnal Arholiadau (ICE) yn ymdrin â nhw. Dylai pob canolfan ddisgwyl ymweliad o leiaf unwaith y flwyddyn gan CIS y CGC.
Rhaid i ganolfannau sicrhau bod yr holl leoliadau a ddefnyddir ar gyfer arholiadau ac asesiadau, cofnodion a chyfleusterau storio diogel ar gael i'w harchwilio. Bydd arolygwyr canolfannau'r CGC yn dangos cerdyn ID a rhaid bod aelod o staff y ganolfan gyda nhw drwy gydol eu hymweliad.
Os nad yw canolfan yn ymateb i geisiadau gan Wasanaeth Arolygu Canolfannau'r CGC, neu'n methu â datrys materion agored, ni fydd cyrff dyfarnu yn danfon deunyddiau asesu diogel at y ganolfan honno. Yn y pen draw, mae'r corff dyfarnu yn cadw'r hawl i dynnu cymeradwyaeth y ganolfan yn ôl.
Gwasanaeth Arolygu Canolfannau’r CGC yng Nghymru
Mae CBAC yn gweinyddu'r Gwasanaeth Arolygu Canolfannau yng Nghymru ar ran holl gyrff dyfarnu'r CGC. Os ydych chi'n gyn-swyddog arholiadau ac yr hoffech gael eich ystyried i arolygu canolfannau yng Nghymru, anfonwch eich CV i jcqinspectionservice@wjec.co.uk.
> Dewch yn arolygydd ar gyfer y CGC