- - Hysbysfwrdd Swyddogion Arholiadau

Mae'r wybodaeth isod yn nodi rhai o'r dyddiadau, dyddiadau cau a nodiadau atgoffa pwysig ar gyfer Swyddogion Arholiadau y mis hwn. Mae'r dogfennau Dyddiadau Allweddol llawn ar gyfer gwahanol lefelau cymhwyster i'w cael yma.
Cyfres Mehefin 2025
Bydd canlyniadau ar gyfer Cyfres Mehefin 2025 yn cael eu cyhoeddi ar y dyddiadau canlynol:
- 3 Gorffennaf 2025 – Llwybrau Mynediad
- 14 Awst 2025 – UG/Safon Uwch; Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol; Tystysgrif Her Sgiliau – CBC Uwch; Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch; Project Estynedig; Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio; Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru)
- 21 Awst 2025 – TGAU; Lefel 1/2 Dyfarniadau a Thystysgrifau Galwedigaethol; Lefel Mynediad; Lefel 1/2 Tystysgrifau (Lladin a Mathemateg Ychwanegol); Llwybrau Ieithoedd; Tystysgrif Her Sgiliau – Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen; Cymraeg Gwaith
Bydd canlyniadau ar gael o hanner nos y dydd cyn y dyddiadau hyn i ddefnyddwyr Porth sydd â chyfrifon Swyddog Arholiadau a Gweinyddu. Bydd pob defnyddiwr Porth arall sydd â mynediad i'r ardal Canlyniadau yn cael mynediad i'r wybodaeth hon o 8am ar y dyddiadau a restrir uchod yn unig. Gellir dod o hyd i ganllawiau pellach ar gyfrifon Porth a chaniatâd cyfrifon ar ein tudalen Porth.
Gellir dod o hyd i ganllawiau canlyniadau, gwybodaeth am ffiniau graddau a chanllawiau ein Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau ar ein tudalennau Canlyniadau, Ffiniau Graddau a Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau.
Mae'r wybodaeth ynglŷn â chael mynediad at ganlyniadau ar gael ar Porth o dan 'Gwybodaeth Allweddol'.
Bydd adroddiadau cymedrolwyr ar gael ar Porth o 8am ar y diwrnodau a restrir uchod o dan 'Arholiadau ac Asesiadau' a 'Marciau/Canlyniadau Asesiadau Mewnol’.
Terfyn Amser Ystyriaeth Arbennig - Cyfres Mehefin 2025
Y terfyn amser i gyflwyno ceisiadau ar gyfer Ystyriaeth Arbennig ar gyfer cyfres Mehefin 2025 yw 2 Gorffennaf 2025. Er y gellir ystyried ceisiadau a wneir ar ôl y dyddiad hwn o hyd, ni ellir gwarantu prosesu ceisiadau hwyr cyn cyhoeddi canlyniadau.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses Ystyriaeth Arbennig ar ein tudalen Gofynion Arbennig.
Mehefin 2025 – Gwiriadau yn ystod y Tymor ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol
18 Gorffennaf 2025 yw dyddiad un o'r gwiriadau yn ystod y tymor ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol a Thechnegol (VTQ), lle rhoddir data cofrestru i ganolfannau ar Porth er mwyn iddyn nhw eu gwirio, gyda datganiad i'w ddychwelyd unwaith y bydd hyn wedi'i wneud.
Cyfres Tachwedd 2024 - Mynediad at Sgriptiau
Noder mai'r dyddiad olaf y gellir cael mynediad at gopïau electronig o sgriptiau o gyfres Tachwedd 2024 drwy Porth yw 9 Gorffennaf 2025.