
Mae Gwefan Ddiogel CBAC yn ardal ddiogel lle caiff ganolfannau fynediad at adnoddau a lle gallant gynnal prosesau gweinyddol yn ddiogel.
Gall canolfannau wneud cofrestriadau, mewnbynnu marciau asesiadau, gwneud cais am drefniadau mynediad a gwasanaethau ar ôl y canlyniadau, yn ogystal â gweld canlyniadau drwy'r wefan ddiogel. Mae'r adnoddau ar y wefan ddiogel yn cynnwys cylchlythyrau, cyn bapurau, cynlluniau marcio a deunyddiau a ryddheir ymlaen llaw.
Mynediad at y wefan ddiogel
Mae gan ganolfannau cymeradwy CBAC fynediad at y wefan ddiogel. Rhoddir un prif gyfrif gyda mynediad gweinyddol i ganolfannau. Fel arfer caiff hwn ei ddyrannu i'r swyddog arholiadau.
Gall deiliad y prif gyfrif greu cyfrifon eilaidd a gweinyddu'r rhain ar gyfer yr aelodau o staff yn y ganolfan.
Wedi anghofio cyfrinair
Os ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair, e-bostiwch securewebsite@wjec.co.uk i wneud cais am fanylion mewngofnodi newydd.
E-bostiwch securewebsite@wjec.co.uk neu ffoniwch 029 2026 5163 am arweiniad pellach.