Mae gwybodaeth am ddyddiadau arholiadau, terfynau amser asesu mewnol a chyfnodau asesu eraill ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol wedi'i chyhoeddi ar y tudalennau hyn.
Amserlenni Terfynol
Amserlenni Dros Dro
Cyhoeddir Amserlenni Dros Dro cyn y fersiynau terfynol er mwyn rhoi'r cyfle i ganolfannau gyflwyno sylwadau am unrhyw broblemau y maen nhw'n sylwi arnyn nhw. Bydd unrhyw amserlenni dros dro sydd ar gael yn ymddangos ar y dudalen hon.
Rhaid anfon unrhyw sylwadau dros e-bost i amserlen@cbac.co.uk erbyn 27 Chwefror 2026
Amserlen arholiadau arfaethedig ar gyfer haf 2027 – mynegwch eich barn
Mae cyrff dyfarnu'r CGC wedi cydweithio i ddrafftio'r amserlenni arholiadau dros dro ar gyfer haf 2027, a ddangosir isod.
Adolygwch yr amserlenni arfaethedig yn eich ysgol neu'ch coleg chi ac anfonwch unrhyw adborth at amserlen@cbac.co.uk erbyn 5pm dydd Gwener 20 Mawrth 2026.
Mae gwrthdaro ar amserlen yn digwydd pan fo dau arholiad neu fwy y mae ymgeisydd wedi'i gofrestru ar eu cyfer wedi'u trefnu ar gyfer yr un sesiwn. Dylai canolfannau reoli gwrthdaro ar amserlenni yn unol â'r arweiniad yn llyfryn ICE y CGC.
Rhaid i ganolfan sy'n rheoli amrywiad amserlen sicrhau bod goruchwyliaeth briodol yn cael ei chynnal drwy'r adeg er mwyn cadw cywirdeb yr arholiad.
Cyhoeddir terfynau amser cyflwyno asesiadau mewnol, gan gynnwys Asesiadau Di-arholiad (NEA) ac Asesiadau dan Reolaeth yma:
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynglŷn â chyflwyno’r Asesiad Mewnol yn ein dogfen “Asesu Mewnol: Canllaw i Ganolfannau”.
Mae ein dogfennau dyddiadau allweddol sy'n cynnwys terfynau amser cofrestru, diwrnodau canlyniadau, a dyddiadau allweddol eraill ar gael i'w lawrlwytho isod:
> Dyddiadau Allweddol 2025/26
Mae dogfennau dyddiadau allweddol y CGC ar gael i'w llwytho i lawr o'u gwefan yma.