Data Sylfaenol CBAC

Bydd ffeiliau diweddaraf data sylfaenol CBAC ar gael i'w lawrlwytho o'r dudalen hon. Mae'r ffeiliau ar gael fel gweithredoedd gweithredadwy hunan-echdynnu neu ffeiliau sip.

Ar gyfer rhai cymwysterau CBAC, mae gwahanol godau disgownt bellach yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr. Gosodir y codau disgownt hyn gan Lywodraeth Cymru yng Nghymru a'r DfE yn Lloegr.

Mae'r ffeiliau data sylfaenol sydd ar gael i ganolfannau i'w lawrlwytho bellach wedi'u gwahanu yn unol â hynny.

Os oes angen eglurhad pellach arnoch ynghylch pa un yw'r Data Sylfaenol cywir ar gyfer eich canolfan, e-bostiwch canolfannau@cbac.co.uk gan ddyfynnu rhif eich canolfan.

 

Mae'r ffeiliau hyn yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer yr holl fanylebau sydd ar gael ar hyn o bryd i ganolfannau y tu allan i Loegr. Mae hyn yn cyfeirio at ganolfannau yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, tiriogaethau tramor, ac mewn mannau eraill.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â data sylfaenol ar gyfer eich canolfan, e-bostiwch canolfannau@cbac.co.uk

Ar gyfer canolfannau yng Nghymru, cyfeiriwch at y ddogfen hon i gael rhagor o wybodaeth am argaeledd manylebau diwygiedig CBAC ac Eduqas.

  • CBAC 2023 - 2024
  • CBAC 2022 - 2023
  • Data Sylfaenol Eduqas