Gellir gwneud cofrestriadau terfynol naill ai drwy Cyfnewid Data Electronig (EDI) neu drwy Porth CBAC.
Mae manylion llawn ynghylch y prosesau hyn, yn cynnwys y terfynau amser perthnasol, i'w cael yn ein llyfryn Dulliau Cofrestru a Gwybodaeth am y Codau.
Cofrestriadau hwyr yw'r cofrestriadau hynny sy'n cael eu gwneud ar ôl y terfyn amser diwygio cofrestriadau, a chofrestriadau hwyr iawn yw'r cofrestriadau hynny sy'n cael eu gwneud ar ôl y terfyn amser cofrestriadau hwyr. Mae ffioedd ychwanegol am unrhyw gofrestriadau a wnaed ar ôl i bob un o'r terfynau amser hyn fynd heibio.
Mae ein ffioedd cofrestru (yn cynnwys ffioedd hwyr a hwyr iawn) wedi'u cyhoeddi yn ein dogfennau ffioedd:
> Ffioedd Mynediad: 2024/25
> Ffioedd Mynediad: 2025/26
Mae gwybodaeth am ailsefyll cymwysterau ar gael yn ein Canllaw i Ofynion Ailsefyll.
Codau Cofrestru, Rhifau Cymeradwyo Cymwysterau (QANs) a darpariaeth cyfresi
Mae codau cofrestru, darpariaeth cyfresi a rhifau QAN i'w gweld yn ein llyfryn Dulliau Cofrestru a Gwybodaeth am y Codau.
Diwygiadau i Gofrestriadau a Thynnu'n ôl
Wrth ddiwygio cofrestriadau, rhaid i ganolfannau ddefnyddio'r un dull cofrestru a ddefnyddion nhw wrth gyflwyno eu cofrestriadau cychwynnol (naill ai drwy EDI neu'r wefan ddiogel).
Rhestrir pob terfyn amser cofrestru a diwygio yn y Llyfryn Dulliau Cofrestru a Gwybodaeth am y Codau. Rhestrir manylion y diwygiadau taladwy a'r ffioedd ar gyfer y rhain yn ein dogfen ffioedd uchod.
Pynciau dynodedig ar gyfer canolfannau yng Nghymru
Mae'r cymwysterau CBAC Eduqas canlynol wedi eu dynodi ar hyn o bryd gan Cymwysterau Cymru i'w defnyddio gan ganolfannau yng Nghymru:
- TGAU (9-1) Electroneg
- TGAU (9-1) Astudiaethau Ffilm
- TGAU (9-1) Daeareg
- TGAU (9-1) Lladin
- TGAU (9-1) Cymdeithaseg
- UG ac Uwch Electroneg
- UG a Safon Uwch Astudiaethau Ffilm
- UG a Safon Uwch Daeareg
Mae gwybodaeth bellach am gofrestru ar gyfer cymwysterau dynodedig a gwneud cais am bapurau cwestiynau cyfrwng Cymraeg ar gael yma.
Mae gwybodaeth am ddiwygio cymwysterau yng Nghymru ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru.
Gellir gwneud ceisiadau am bapurau Cyfrwng Cymraeg mewn cymwysterau TGAU a TAG Eduqas drwy lenwi a dychwelyd y ffurflen hon: Cais am bapurau cyfrwng Cymraeg mewn cymwysterau Eduqas TGAU a TAG
Mae data sylfaenol yn ofynnol gan unrhyw ganolfan sy'n dymuno cofrestru gan ddefnyddio EDI (Cyfnewid Data Electronig). Mae data sylfaenol yn cael eu mewnforio i System Gwybodaeth Rheoli (MIS) y ganolfan ac maent yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y pynciau amrywiol mae CBAC Eduqas yn eu cynnig, gan ddarparu manylion am sut y mae pob pwnc yn cael ei rannu’n rhannau cyfansoddol, e.e. opsiynau, cydrannau, papurau, uchafswm marciau, dyddiadau arholiadau, ffioedd ac ati.
Gallwch lwytho'r data sylfaenol i lawr yma>
Mae’n hanfodol bod canolfannau’n defnyddio fersiwn diweddaraf y data sylfaenol sydd ar gael ar gyfer pob lefel a chyfres arholiadau.
Rhaid rhoi Dangosydd Ymgeisydd Unigryw (UCI) i bob ymgeisydd. Mae'r rhif 13 digid hwn yn rhan o gofrestriad yr ymgeisydd. Rhaid i ganolfannau gadw UCI gwreiddiol ymgeisydd bob amser ac ni ddylent greu un newydd os yw'r ymgeisydd yn symud canolfan, ond mae'n arbennig o bwysig ar gyfer manylebau unedol ac os ydynt yn cyfnewid marciau Asesiadau Di-arholiad.
Mae gwybodaeth bellach am UCI i'w gweld ar wefan CGC.
Mae offeryn ar gyfer creu UCI ar gael yma.
Mae costau rhedeg a chyflwyno arholiadau yn rhan o'r hyn y mae ein ffioedd yn talu amdano, yn ogystal â'r gefnogaeth barhaus sydd ar gael gennym. Fel elusen, rydym wedi ymrwymo i ailfuddsoddi a pharhau i wella'r gefnogaeth, yr adnoddau a'r cymwysterau a ddarparwn i ysgolion, colegau a dysgwyr – gweler ein ffeithlun Ffioedd: I ble mae'r arian yn mynd? am fwy o wybodaeth.
Eleni, rydym hefyd wedi datblygu pecyn cefnogi newydd, helaeth i gefnogi ysgolion a cholegau fel y gallant asesu eu dysgwyr yn hyderus. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi cynhwysfawr, deunyddiau asesu, enghreifftiadau, ac arweiniad proffesiynol manwl.
> Ffioedd Mynediad: 2024/25
> Ffioedd Mynediad: 2025/26