- - Camymddwyn

Mae gwybodaeth ynghylch camymddwyn ar gael yn ein dogfen Canllaw i atal, adrodd am ac ymchwilio i gamymddwyn a Canllaw i athrawon - Atal camymddwyn mewn asesiadau mewnol.
Rhaid rhoi gwybod i CBAC am bob achos o gamymddwyn honedig neu wirioneddol. Os bydd ymgeiswyr yn camymddwyn, mae'n bosibl y cânt eu cosbi neu eu diarddel o'r arholiadau.
Ym mhob achos o gamymddwyn, cynghorir canolfannau i ddilyn cyngor llyfryn y CGC Amau Camymddwyn: Polisïau a Gweithdrefnau.
Gosodiad Chwythu'r Chwiban
Os ydych yn credu eich bod wedi gweld achos o gamymddwyn mewn arholiadau ac asesiadau, dylech roi gwybod yn y lle cyntaf i Bennaeth eich Canolfan, sydd â dyletswydd i ymchwilio i bob achos o'r fath a rhoi gwybod amdanynt. Os ydych yn credu y cewch eich trin yn annheg am godi materion o'r fath gyda Phennaeth eich Canolfan, neu os ydych yn teimlo bod eich Uwch Dîm Rheoli yn rhan o'r achos, cewch gysylltu â ni yn uniongyrchol.
Mae cyrff dyfarnu'n awyddus bod achosion o gamymddwyn yn cael eu hadrodd ac maen nhw'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gamymddwyn i roi gwybod amdano. Os ydych chi am aros yn ddienw, caiff hyn ei barchu, oni bai bod corff dyfarnu o dan rwymedigaeth gyfreithiol i roi gwybod pwy yw'r person sy'n gwneud yr honiad.
Dylech fod yn ymwybodol na ellir defnyddio gwybodaeth sy'n cael ei darparu'n ddienw fel tystiolaeth. Fodd bynnag, gall gwybodaeth o'r fath fod yn sail i ymchwiliad, neu roi achos tebygol dros ymchwilio; er mwyn cefnogi unrhyw ymchwiliad posibl byddai'n well pe baech yn darparu'r holl wybodaeth sydd gennych ar yr un pryd, yn hytrach nag ychwanegu gwybodaeth yn ddiweddarach, os yn bosibl.
Os oes gennych wybodaeth ynghylch camymddwyn, gallwch gysylltu â Thîm Camymddwyn CBAC yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.
E-bost: camymddwyn@cbac.co.uk
Ffôn: 02920 265 351
Adran Camymddwyn
CBAC
245 Rhodfa'r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YX
Er mwyn i ni allu ymchwilio'n effeithiol, mae’n ddefnyddiol cael cymaint o wybodaeth â phosibl am y digwyddiad; i'r perwyl hwn byddai'n ddefnyddiol pe byddech yn benodol ynghylch yr hyn oedd yn gamymddwyn, pwy oedd wedi'i gyflawni, pwy a elwodd ohono, pryd a lle y digwyddodd a phwy, os yn briodol, all fod yn dyst iddo.
Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol ynghylch gwneud honiad a chamymddwyn ar wefan y CGC.
Ni fydd cyrff dyfarnu yn adrodd canlyniad achosion wrth y sawl sy'n gwneud yr honiadau. Byddai gwneud hynny yn datgelu gwybodaeth freintiedig sy'n aml dan amodau'r Ddeddf Diogelu Data.