Fel rhan o'n dull cyd-awduro o ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig, rydym wedi ymrwymo i gynnig sianeli i gasglu adborth adeiladol a mewnwelediad gan amrywiaeth o randdeiliaid gwerthfawr.
Rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt drwy gydol ein proses datblygu cymwysterau. Mae casglu ac adolygu'r safbwyntiau a'r mewnwelediad a gynigir gan ein rhanddeiliaid yn rhan annatod o'n dull gweithredu. Rydym yn ystyried barn amrywiaeth eang o arbenigwyr gan gynnwys addysgwyr, undebau, adrannau'r llywodraeth, dysgwyr a llawer mwy.
Ein Grwpiau Cynghori.
Rydym wedi sefydlu sawl grŵp cynghori a fydd yn llywio ac yn cefnogi datblygiad ein cymwysterau:
Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau:
Dros 170 o staff addysgu o dros 100 o ysgolion yng Nghymru, yn rhannu eu profiadau i lywio'r broses ddatblygu. Bydd yr aelodau hyn yn cefnogi ein nod o ddarparu cymwysterau newydd sy'n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru ochr yn ochr â diwallu anghenion yr holl ddysgwyr ac ymarferwyr.
Grŵp Cynghori Penaethiaid:
Panel yn cynnwys uwch arweinwyr ac ymgynghorwyr allanol ychwanegol o amrediad o sefydliadau saddysgol Cymreig, yn arbenigo mewn llywodraethu a rheoli ein hysgolion.
Darllenwch fwy isod i gael gwybod am ein Grŵp Cynghori Dysgwyr a'r Grŵp Rhanddeiliaid Cyffredinol:
Angen mwy o wybodaeth? Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â ni ar datblygucymwysterau@cbac.co.uk.