Amlinelliadau o'r cymwysterau a chrynodebau o'r ymgynghoriadau ar gael nawr

Yn dilyn ein proses ymgynghori ddiweddar ac ar ôl ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, rydym yn falch o ddatgan bod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben a’n bod wedi cyhoeddi amlinelliadau o'r cymwysterau ar gyfer y gyfres newydd o TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig – i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025.