Cwrdd â'r tîm

Bydd ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU yn cael eu datblygu gan ein tîm o Swyddogion Datblygu Cymwysterau profiadol a brwdfrydig. Gan weithio'n agos â'n Timau Pwnc, byddant yn creu cyfres o gymwysterau TGAU diwygiedig i ddysgwyr yng Nghymru sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

 

Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau

 

Ymunodd Delyth â CBAC yn 2023 ar ôl bod yn Bennaeth Cymeradwyo a Dynodi yn Cymwysterau Cymru.


'Rwy'n falch iawn o fod yn arwain y project hwn. Ar ôl gweithio ar sefydlu 'Cymwys ar gyfer y dyfodol' yn ystod fy nghyfnod yn Cymwysterau Cymru, mae'n wych cael y cyfle i fod yn rhan o'r elfen gyflwyno trwy ddatblygu'r cymwysterau TGAU newydd cyffrous hyn.


Mae'r tîm yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â chydweithwyr o bob rhan o'r gymuned addysg i ddatblygu cymwysterau ac rydym yn hyderus y byddant yn rhoi'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer y dyfodol.’

Elen Davies, Swyddog Datblygu Cymwysterau

 

Cyn ymuno â'n Tîm Datblygu Cymwysterau, Elen oedd y Rheolwr Cymwysterau yn CBAC ac roedd yn gweithio ar draws yr holl gymwysterau. Mae Elen hefyd wedi rheoli rhaglen Llwybrau at Ieithoedd Cymru a'r fenter Mentora ITM ym Mhrifysgol Caerdydd i hyrwyddo addysgu ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru. Mae Elen yn gyn-bennaeth Ffrangeg ac Ymgynghorydd Addysgu Ieithoedd ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad Dyfarniadau Technegol Lefel 2 newydd CBAC a'r gyfres newydd o gymwysterau Lefel 3 Cymhwysol.

Leah Maloney, Swyddog Datblygu Cymwysterau

 

Ymunodd Leah â CBAC fel Swyddog Cefnogaeth Ranbarthol yn 2011. Yn ei rôl fel Swyddog Cefnogaeth Ranbarthol, mae Leah wedi bod trwy nifer o brosesau diwygio cymwysterau, gan helpu ysgolion a cholegau i sefydlu a datblygu cymwysterau newydd yn llwyddiannus. Mae Leah yn gyn-bennaeth Bagloriaeth Cymru yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg ac ymunodd â'n Tîm Datblygu Cymwysterau ym mis Mai 2023.

Dr Rachel Dodge, Swyddog Datblygu Cymwysterau

 

Arweiniodd Rachel ein cymhwyster Seicoleg fel Swyddog Pwnc cyn ymuno â'n Tîm Cymwysterau yn 2020. Bu Rachel yn addysgu ar lefel Uwchradd ac Addysg Bellach am 18 mlynedd. Mae hi newydd ennill ei Thystysgrif Uwch Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Addysgol: Asesiad Addysgol gyda Phrifysgol Caergrawnt, ac mae ganddi brofiad helaeth o ddatblygu cymwysterau gan iddi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o greu ein cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd.

Wyn Jones, Swyddog Datblygu Cymwysterau

 

Bu Wyn yn addysgu am 25 mlynedd cyn ymuno â CBAC yn 2016 fel Swyddog Pwnc Drama. Roedd yn Bennaeth Drama a'r Cyfryngau yn Ysgol Gyfun Plasmawr ac Ysgol Gyfun Glantaf a hefyd yn Bennaeth Cyfnod Allweddol 4 yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe. Yn ei rôl fel Uwch Arholwr Drama, roedd yn rhan o'r tîm a ddiwygiodd y cymhwyster Safon Uwch Drama a Theatr yn 2016, ac fe wnaeth hefyd arwain y gwaith o ddatblygu'r cymhwyster TGAU Astudio'r Cyfryngau yn 2017.

Paul Evans, Swyddog Datblygu Cymwysterau

 

Mae Paul yn gyn-swyddog pwnc Daearyddiaeth yn CBAC ar ôl iddo ymuno yn 2018. Fel Swyddog Pwnc, roedd Paul yn rhan o'r tîm wnaeth ymdrin ag asesu'r cymwysterau TGAU Daearyddiaeth presennol am y tro cyntaf yn 2018, a bydd yn defnyddio ei brofiad helaeth a'i wybodaeth yn yr ystafell ddosbarth i greu'r gyfres newydd o gymwysterau TGAU. Roedd yn Bennaeth Daearyddiaeth ac yn Uwch Fentor ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn Ysgol Brenin Harri'r VIII, Y Fenni.

Justine Swainson, Swyddog Datblygu Cymwysterau

 

Mae Justine yn gyn-athrawes a Phennaeth Ieithoedd Tramor Modern, a bu'n addysgu yng Nghymru a Lloegr tan 2015. Rhwng 2016 a 2021, roedd Justine yn gweithio i'r Fagloriaeth Ryngwladol, lle bu'n gweithio yn yr adrannau Asesu ac Addysgu a Dysgu, gan arbenigo mewn Caffael Iaith a Cherddoriaeth, a'r Celfyddydau. Mae hi wedi dod i CBAC o Pearson / Edexcel, lle bu'n gweithio ar ddatblygu'r cymwysterau TGAU Ieithoedd Tramor Modern diwygiedig.

Nina Rees, Swyddog Datblygu Cymwysterau

 

Bu Nina yn arwain yr adran TGCh a Busnes yn Ysgol Coedcae, Llanelli am 17 mlynedd. Mae hi'n brofiadol yn y maes cymwysterau, ac wedi bod yn Uwch Arholwr i'r OCR rhwng 2008 a 2018 ac i CBAC rhwng 2018 a 2023, lle bu'n dylunio asesiadau ac arwain y broses asesu. Mae Nina wedi ysgrifennu sawl llyfr addysgol wedi'i gymeradwyo gan fwrdd arholi ar gyfer tŷ cyhoeddi mawr. Tra'i bod yn astudio gradd Meistr mewn Addysg, arbenigodd Nina mewn ymchwil i asesu.

Elan Richards, Swyddog Datblygu Cymwysterau

 

Ymunodd Elan â CBAC yn 2023, ar ôl gweithio i Cymwysterau Cymru yn flaenorol, gan arwain y gofynion datblygu ar gyfer y TGAU newydd mewn Cymraeg, Cymraeg Craidd a Saesneg. Fel rhan o'n Tîm Datblygu Cymwysterau, bydd hi'n parhau i weithio ar gyd-greu ein TGAU a'n cymwysterau cysylltiedig newydd. Roedd Elan yn arfer gweithio fel Swyddog Cydymffurfio ar gyfer corff dyfarnu ABRSM.

Julie Rees, Swyddog Datblygu Cymwysterau

 

Ymunodd Julie â CBAC yn 2006, yn dilyn cwblhau gradd anrhydedd BA mewn Astudiaethau Saesneg. Mae ei 17 mlynedd o brofiad, gan gynnwys ei rôl ddiweddaraf fel Rheolwr Cymwysterau, wedi rhoi cyfoeth o wybodaeth a sgiliau iddi o ran datblygu cymwysterau ac asesu ar gyfer cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol. Yn ddiweddar, mae Julie wedi chwarae rhan allweddol yn yr adolygiad llwyddiannus o'n cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant ynghyd â'i rôl fel rheolwr project yn natblygiad cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.

Angen mwy o wybodaeth?  Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â ni ar datblygucymwysterau@cbac.co.uk

 

Gallwch ein dilyn hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol: