Datblygu cyfres o gymwysterau lled-ddargludydd

Fel corff dyfarnu mwyaf Cymru, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru, gan gynnwys CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, a'r unig un) i ddatblygu cymwysterau newydd i gefnogi diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd Cymru.

 

Mae De Cymru yn paratoi'r ffordd ymlaen o ran dylunio, datblygu a masnacheiddio'r lled-ddargludyddion cyfansawdd y mae eu hangen ar gyfer economi sero net, ac i wasanaethu'r galw byd-eang cynyddol am dechnolegau wedi'u galluogi gan led-ddargludyddion cyfansawdd, sy'n werth rhagamcan o £230 biliwn erbyn 2024.

 

I sicrhau bod gan y diwydiant fynediad at weithlu medrus, rydym yn datblygu cymhwyster Lefel 4 newydd ar gyfer technegwyr lled-ddargludyddion i gefnogi hyfforddiant wrth y gwaith ac i fynd i'r afael â bwlch sgiliau a nodwyd.

 

Ynghyd â'r cymhwyster Lefel 4 newydd, byddwn yn datblygu cyfres o unedau sy'n seiliedig ar gredydau ar lefelau 1, 2 a 3 i gyflwyno dysgwyr i'r diwydiant lled-ddargludyddion a'r llwybrau gyrfa sydd ar gael iddyn nhw, yn ogystal â darparu sylfaen o wybodaeth a dealltwriaeth dechnegol i gefnogi dilyniant. Bydd yr unedau hyn wedi'u llunio i'w cyflwyno ochr yn ochr â chymwysterau presennol megis TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol i ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth, neu fel unedau arunig i ddysgwyr heb fawr ddim gwybodaeth flaenorol, os o gwbl, am y maes sector. Yn dibynnu ar nifer a lefel yr unedau a gyflawnir gan y dysgwr, gellir dyfarnu cymhwyster sydd wedi'i gydnabod yn genedlaethol iddynt. 

 

Mae datblygiad y cymwysterau hyn yn ategu project cysylltiedig sy'n cael ei arwain gan iungo Solutions mewn partneriaeth ag Addewid Caerdydd, Space Forge a Philtronics i sefydlu Academi Sgiliau Lled-ddargludydd Technegol Uwch yng Nghymru. Bydd yr Academi Sgiliau yn darparu 'bŵtcamp' sgiliau lled-ddargludydd 10 wythnos o hyd gan ddefnyddio ein hunedau newydd, gyda'r bwriad o symud dysgwyr ymlaen i gyflogaeth a'r cymhwyster Lefel 4 lled-ddargludydd.

 

Bydd yr unedau rhagarweiniol yn barod i'w cyflwyno o fis Ebrill 2024 gyda'r cymhwyster Lefel 4 llawn ar gael o fis Medi 2024.

 

Cymerwch ran

 

Rydym yn awyddus i ymgysylltu â thalent newydd a datblygu'r gofynion sgiliau galwedigaethol i ateb y galw cynyddol am swyddi yn y diwydiant.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni ar ein taith, anfonwch neges e-bost at Julie.rees@wjec.co.uk.