Datblygu cyfres o gymwysterau Sgiliau Gwyrdd

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn archwilio'r galw posibl am gyfres o Gymwysterau Sgiliau Gwyrdd i fodloni anghenion dysgwyr ar draws amrywiaeth eang o leoliadau. Mae hyn mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Pedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru, a Nodau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig. 

 

Ein gweledigaeth ar gyfer y gwaith hwn yw byd lle:

  • mae dysgwyr yn gadael yr ysgol yn hyderus o'u lle o ran cymdeithas a phlaned sy'n newid yn gyflym gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r meddylfryd y bydd eu hangen arnynt i'w lywio, yn barod i gyfrannu'n weithredol ati fel dinasyddion a cheidwaid dyfodol cynaliadwy
  • gall addysgwyr 'ddysgu'r dyfodol' yn hyderus a chychwyn ar eu teithiau dysgu eu hunain tuag at gyflawniad proffesiynol (a phersonol)
  • mae cyflogwyr yn cymryd rhan weithredol yn y daith ddysgu hon fel partneriaid, datryswyr problemau a galluogwyr sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Ein cenhadaeth yw arfogi cenedlaethau o ddysgwyr ac arweinwyr heddiw a'r dyfodol i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r meddylfryd y bydd eu hangen arnynt i ffynnu – a chyfrannu – mewn byd sy'n newid yn sgil yr hinsawdd.

 

> Cymerwch ran : Cyfleoedd i lunio cymwysterau newydd ar gyfer y dyfodol