Ein Grŵp Cynghori Dysgwyr

Mae ein dysgwyr wrth wraidd pob penderfyniad a wnawn. Felly, credwn ei bod yn hynod bwysig bod eu safbwyntiau yn helpu i lywio ein gwaith.

 

Fel y corff dyfarnu blaenllaw ar gyfer cymwysterau ac asesiadau dwyieithog yng Nghymru, rydym bob amser yn ystyried safbwyntiau a theimladau ein dysgwyr. Felly, yn 2023, lansiwyd ein Grŵp Cynghori Dysgwyr newydd.

 

Cyflwyno ein Grŵp Cynghori Dysgwyr

 

Mae ein Grŵp Cynghori Dysgwyr yn cynnwys 24 o ddysgwr ysbrydoledig, sy'n dod o gefndiroedd amrywiol gydag amrywiaeth o brofiadau dysgu gwahanol. Maen nhw'n rhoi cyfle i ni ystyried eu barn a'u safbwyntiau, sy'n helpu i lywio ein gwaith.

 

Gwybodaeth bellach: 

 

Os hoffech wybod mwy am ein cymwysterau 'Gwneud-i-Gymru' neu ein Grŵp Cynghori Dysgwyr, cysylltwch â:  gwenda.matthews@cbac.co.uk