- Cymwys ar gyfer y Dyfodol: mae CBAC yn barod i ddarparu
- Datblygu cyfres o gymwysterau Sgiliau Gwyrdd
- - Cyfrannu at ddiwygio ein cymwysterau lefel 3
- Datblygu cyfres o gymwysterau lled-ddargludydd

Ar hyn o bryd rydym yn diwygio ein cymwysterau cymhwysol mewn Troseddeg, Gwyddor Bwyd a Maeth, a Gwyddor Feddygol.
Wedi'u hanelu at ddysgwyr ôl-16 mewn addysg llawn amser, mae ein cymwysterau cymhwysol wedi'u cynllunio i ddatblygu gwybodaeth sylfaenol a sgiliau ymarferol trwy ddysgu cymhwysol h.y. trwy gyd-destunau pwrpasol sy'n gysylltiedig â sector neu faes pwnc.
Mae'r cymwysterau newydd hyn yn cael eu datblygu i fodloni'r gofynion ar gyfer cymwysterau academaidd amgen a fydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025 neu 2026, yn dibynnu ar y pwnc. Darllenwch fwy am bob pwnc a darganfod sut gallwch gymryd rhan isod.
Ymateb i'n hymgynghoriadau
Byddwn yn ymgynghori ar ein cynigion cymwysterau yn ddiweddarach yn ystod tymor yr hydref. Cofrestrwch i'n diweddariadau pwnc i gael gwybod pryd y bydd ymgynghoriad pwnc yn mynd yn fyw.