Ein rôl

Bydd ein tîm o arbenigwyr cymwysterau ac asesu yn gyfrifol am ddylunio, datblygu a darparu y gyfres newydd o gymwysterau TGAU. Byddwn yn defnyddio dull cyd-awduro i ddatblygu'r cymwysterau, ac rydym wedi ymrwymo i ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru a thu hwnt.

 

Mae Cymwysterau Cymru wedi rhoi fframweithiau cymwysterau i ni sy'n rhagnodi'r cynnwys a'r asesiadau ar gyfer pob pwnc; ac rydym nawr yn cydweithio'n agos â nhw drwy gydol y broses i sicrhau bod y cymwysterau newydd yn bodloni gofynion y rheoleiddwyr.

 

Mae gan Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a CBAC rolau a chyfrifoldebau penodol yn y broses o ddatblygu cymwysterau yng Nghymru. 

 

 

Gallwch ein dilyn hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol: