Ton 3 o'r manylebau drafft Gwneud-i-Gymru ar gael yn awr
Rydyn ni'n falch o gyhoeddi'r set gyntaf o'n manylebau drafft ar gyfer y drydedd don o gymwysterau Gwneud-i-Gymru, sy'n nodi carreg filltir bwysig arall yn dilyn cyfnod dwys o ddatblygu'r cymwysterau.
Bellach ar gael i'w gweld ar-lein, mae'r manylebau drafft hyn wedi'u cyflwyno i Cymwysterau Cymru eu cymeradwyo, gyda'r bwriad i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.
|
|
Yn sôn am y llwyddiant arwyddocaol hwn, mae Sarah Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Datblygu Cymwysterau (Cymwysterau Galwedigaethol a Sgiliau): "Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi ein manylebau drafft ar gyfer y don ddiweddaraf o'n cymwysterau hygyrch a diddorol. Rwy'n ddiolchgar i'n hawduron ac adolygwyr, ein grwpiau cynghori, timau'r pynciau a'n Tîm Datblygu Cymwysterau am eu cyfranogiad gwerthfawr drwy gydol y broses hon. |
Rydyn ni wedi cydweithio'n agos ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan sicrhau bod eu barn wedi cyfrannu at lunio pob cymhwyster. O ganlyniad, rydym yn hyderus y bydd y manylebau hyn yn cefnogi system addysgol fodern, gynhwysol ac amrywiol sy'n adlewyrchu dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae pob cymhwyster wedi'i gynllunio i ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr ar draws Cymru, gan roi'r wybodaeth, dealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn marchnad fyd-eang."
Mae ein manylebau drafft, a gynlluniwyd i fodloni Meini Prawf Cymeradwyo Cymwysterau Cymru, ar gael ar y dudalen pwnc:
Lefel 1 / 2 TAAU:
- Amgylchedd Adeiledig
- Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg
- Peirianneg
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Teithio a Thwristiaeth
Lefel Mynediad / Lefel 1 Sylfaen:
Noder, oherwydd cyfyngiadau rheoleiddio, ni allwn gyhoeddi'r manylebau terfynol wedi'u cymeradwyo tan fis Medi.
Canllawiau Cyflym – dod i adnabod eich cymhwyster
Ochr yn ochr â'n manylebau drafft, mae ein timau pwnc wedi cynhyrchu 'Canllawiau Cyflym' i roi trosolwg clir a hygyrch o'r cymwysterau newydd cyffrous hyn.
Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r canlynol:
- Pwrpas a throsolwg o'r cymhwyster
- Strwythur y cymhwyster
- Proffil y dysgwr targed
- Dull Asesu
Lawrlwythwch y Canllawiau Cyflym ar gyfer eich pwnc yma.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau newydd, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.
