CBAC TAAU Lefel 1/Lefel 2 Peirianneg
Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio
Ynglŷn â'r TAAU mewn
Peirianneg Mae Peirianneg yn allweddol o ran sbarduno economi Cymru, gan gefnogi diwydiannau fel gweithgynhyrchu, trafnidiaeth, egni ac adeiladu, a chreu swyddi uchel eu gwerth sy'n gofyn am sgiliau.
Mae'r cymhwyster hwn yn cyflwyno dysgwyr i'r sector drwy weithgareddau ymarferol, gan gynnwys lluniadu technegol, deall defnyddiau, tasgau cynllunio, a chynhyrchu cydrannau.
Mae asesiadau'n arddangos sgiliau dysgwyr ac yn dyfnhau eu dealltwriaeth o'r sector, gan feithrin hyder a hyfedredd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer astudiaethau pellach, prentisiaethau neu yrfaoedd mewn diwydiant hanfodol, arloesol sy'n llywio bywyd bob dydd.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae ein cymhwyster Lefel 1/2 TAAU Peirianneg wedi'i lunio i fod yn gyfochrog â chymwysterau TGAU, gan gynnig profiad galwedigaethol ymarferol sy'n ehangu dysgu i ddysgwyr 14 i 16 oed mewn ysgolion.
Mae'n addas i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn pynciau ymarferol, seiliedig ar sgiliau a gyrfaoedd posibl mewn adeiladu, dylunio adeiladau, adfer treftadaeth, neu grefftau fel gwaith brics, gwaith plymio, gwaith trydanol, a gwaith coed, yn ogystal â rolau mewn cynllunio, tirfesureg a rheoli safleoedd.
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.