CBAC TAAU Lefel 1/Lefel 2 Amgylchedd Adeiledig
Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio
Ynglŷn â'r TAAU mewn Amgylchedd Adeiledig
Mae'r sector Amgylchedd Adeiledig yn llunio'r mannau lle rydym ni'n byw ac yn gweithio, gan ddylanwadu ar adeiladu, dylunio a chynaliadwyedd.
Mae'r cymhwyster hwn yn cyflwyno dysgwyr i'w gwmpas, prosesau allweddol, a rolau amrywiol, ochr yn ochr â fframweithiau fel deddfwriaeth, cynllunio ac asesu risg.
Drwy weithgareddau ymarferol, bydd dysgwyr yn datblygu ac yn gwerthuso sgiliau mewn tair crefft fel bricwaith, gwaith plymio, neu waith coed, gan feithrin hyder a sgiliau trosglwyddadwy wrth iddyn nhw baratoi i astudio ymhellach neu i ddilyn prentisiaethau neu yrfaoedd yn y diwydiant hanfodol hwn sy'n datblygu.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster Lefel 1/2 TAAU Amgylchedd Adeiledig wedi'i lunio i fod yn gyfochrog â chymwysterau TGAU, gan gynnig profiad galwedigaethol ymarferol sy'n ehangu dysgu i ddysgwyr 14 i 16 oed mewn ysgolion.
Mae'n addas i ddysgwyr sydd â diddordeb mewn pynciau ymarferol, seiliedig ar sgiliau, a gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu.
Mae'n cynnig llwybr strwythuredig i ddeall natur amrywiol yr amgylchedd adeiledig a'r cyfleoedd gyrfa y mae'r sector yn eu cynnig. Mae'n darparu sylfaen ardderchog ar gyfer astudio ymhellach, sydd yn ei dro yn cefnogi symud ymlaen i fyd gwaith.
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.