CBAC Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad Cymraeg
Gall addysgu a dysgu ei gwneud yn ofynnol i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â materion sensitif. Er mwyn cefnogi ymarferwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym wedi datblygu dogfen ganllawiau newydd ar gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth. Gallwch gael mynediad i'n canllawiau drwy'r cyswllt canlynol.
Ynglŷn â'r Cymwysterau Sylfaen Cyffredino mewn Cymraeg
Mae'r cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad Cymraeg wedi'i lunio ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio ar Lefel Mynediad 1 i Lefel Mynediad 3, gan ddarparu llwybr cefnogol a chynhwysol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu hanfodol ar gyfer bywyd pob dydd, dysgu a byd gwaith.
Mae'r cymhwyster hwn yn grymuso dysgwyr i fagu hyder a chymhwysedd wrth ddarllen, ysgrifennu, siarad a gwrando, gyda phwyslais cryf ar berthnasedd, hygyrchedd a chymhwyso at gyd destunau bywyd go iawn.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Lefel Mynediad yn y pwnc hwn. Bydd yn datblygu ymhellach y ddealltwriaeth gysyniadol y mae dysgwyr wedi'i meithrin drwy eu haddysg Cwricwlwm i Gymru rhwng 3 ac 14 oed.
Mae hefyd yn ymwneud â'r pedwar diben a'r egwyddorion cynnydd ac yn eu cefnogi. Bydd y cymhwyster yn gweithredu fel sylfaen eang ar gyfer symud ymlaen i astudio TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg drwy ganolbwyntio ar ddealltwriaeth a sgiliau tebyg.