CBAC TAAU Lefel 1/Lefel 2 Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg
Cyflwyno testunau sensitif i'r ystafell ddosbarth – Cefnogi athrawon ledled Cymru
Gall addysgu a dysgu ei gwneud yn ofynnol i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â materion sensitif. Er mwyn cefnogi ymarferwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym wedi datblygu dogfen ganllawiau newydd ar gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth. Gallwch gael mynediad i'n canllawiau drwy'r cyswllt canlynol.
Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio
Ynglŷn a'r TAAU mewn
Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg Mae'r diwydiannau creadigol yn sector twf dynamig yng Nghymru, sy'n cael ei lywio gan arloesi digidol a llwyfannau cyfryngau amrywiol.
Mae'r cymhwyster hwn yn cyflwyno dysgwyr i gwmpas cynhyrchu creadigol a'r cyfryngau, rolau allweddol, ac arferion y diwydiant, ochr yn ochr ag ystyriaethau moesegol, cyfreithiol a thechnolegol.
Drwy brojectau ymarferol, mae dysgwyr yn cynllunio, cynhyrchu a mireinio cynnwys y cyfryngau, gan ddatblygu sgiliau creadigol, technegol a threfnu wrth iddyn nhw baratoi i astudio ymhellach neu i ddilyn prentisiaethau neu yrfaoedd yn y diwydiant bywiog hwn sy'n datblygu'n gyflym.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae ein cymhwyster Lefel 1/2 TAAU Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg wedi'i lunio fel dewis galwedigaethol deniadol arall neu i ategu cymwysterau TGAU ar gyfer dysgwyr 14 16 oed mewn ysgolion.
Mae'n cynnig llwybr clir i ddeall y diwydiannau creadigol, eu rolau amrywiol, a'u cyfleoedd gyrfa, wrth ddatblygu sgiliau ymarferol a thechnegol.
Mae'r sylfaen gref hon yn cefnogi symud ymlaen i astudio ymhellach neu i ddilyn prentisiaethau neu gyflogaeth mewn sector dynamig sy'n arloesi ac yn sbarduno twf yng Nghymru.
Oes gennych chi gwestiwn?
CMPT@wjec.co.uk
02920265327
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.