CBAC TAAU Lefel 1/Lefel 2 Teithio a Thwristiaeth

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Cysylltiadau

Ynglŷn â'r TAAU mewn Teithio a Thwristiaeth

Mae'r diwydiant Twristiaeth yn hanfodol i economi a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, gan gysylltu pobl â chyrchfannau lleol a byd-eang.

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cyflwyniad i ddysgwyr i gwmpas y sector, rolau swyddi, a llwybrau gyrfa, ochr yn ochr ag ystyriaethau allweddol fel deddfwriaeth, cynllunio a chynaliadwyedd.

Drwy weithgareddau ymarferol, bydd dysgwyr yn ymchwilio i gyrchfannau, yn cynllunio teithiau, ac yn creu deunyddiau marchnata, gan feithrin hyder a sgiliau trosglwyddadwy wrth iddyn nhw baratoi i astudio ymhellach neu i ddilyn prentisiaethau neu yrfaoedd yn y diwydiant dynamig ac amrywiol hwn. 

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?

Mae ein cymhwyster Lefel 1/2 TAAU Teithio a Thwristiaeth wedi'i lunio i fod yn gyfochrog â chymwysterau TGAU, gan gynnig profiad galwedigaethol ymarferol sy'n ehangu dysgu i ddysgwyr 14 i 16 oed mewn ysgolion.

Mae'n darparu sylfaen gadarn o wybodaeth am y diwydiant wrth ddatblygu sgiliau hanfodol, baratoi dysgwyr i astudio ymhellach neu i ddilyn prentisiaethau neu yrfaoedd yn y sector. Mae'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n chwilio am brofiad byd go iawn ochr yn ochr ag astudiaeth academaidd, mae'n agor llwybrau i ddiwydiant dynamig sy'n tyfu.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Emma Vincent
Oes gennych chi gwestiwn?
Emma Vincent
phone_outline 02920 265483
Swyddog Pwnc
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Emma Vincent