CBAC Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad Cymraeg Craidd

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Cysylltiadau
Ynglŷn â'r Cymwysterau Sylfaen Cyffredino mewn Cymraeg Craidd 

Mae Cymraeg Craidd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol a lleoliadau gwaith, gan roi sgiliau gwerthfawr ar gyfer bywyd mewn Cymru ddwyieithog iddyn nhw.
Drwy ymgysylltu â chyd-destunau bywyd go iawn a thasgau ystyrlon sy'n gysylltiedig â gwaith, mae'r cymhwyster hwn yn ysbrydoli dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg ac i gydnabod ei pherthnasedd a'i gwerth ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Gyda themâu ""yr ardal"" ac ""y gweithle"" yn ganolog iddo, mae Cymraeg Craidd yn cynnig cyfleoedd dilys i ddod yn siaradwr Cymraeg mwy hyderus.


Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Lefel Mynediad 1 i Lefel Mynediad 3 yn y pwnc hwn.
Bydd yn datblygu ymhellach y ddealltwriaeth gysyniadol y mae dysgwyr wedi'i meithrin drwy eu haddysg Cwricwlwm i Gymru rhwng 3 ac 14 oed. Mae hefyd yn ymwneud â'r pedwar diben a'r egwyddorion cynnydd ac yn eu cefnogi. Bydd y cymhwyster yn gweithredu fel sylfaen eang ar gyfer symud ymlaen i astudio TGAU Cymraeg Craidd drwy ganolbwyntio ar ddealltwriaeth a sgiliau tebyg.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Sian Llewelyn Jones
Oes gennych chi gwestiwn?
Sian Llewelyn Jones
phone_outline 02920 265162
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Sian Llywelyn