CBAC Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Saesneg
Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio
Ynglŷn â'r Cymwysterau Sylfaen Cyffredino mewn Saesneg
Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau hanfodol ac i fagu hyder, gan weithredu fel sylfaen gadarn ar gyfer dysgu yn y dyfodol a bywyd pob dydd.
Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau hanfodol ac i fagu hyder, gan weithredu fel sylfaen gadarn ar gyfer dysgu yn y dyfodol a bywyd pob dydd.
Mae'n datblygu cyfathrebu clir, cywir a chreadigol ar draws cyd destunau amrywiol, tra'n meithrin cysylltiad drwy iaith ac yn ysbrydoli creadigrwydd drwy lenyddiaeth.
Wedi'i alinio â'r Cwricwlwm i Gymru, mae'n paratoi dysgwyr ar gyfer symud ymlaen i astudiaethau pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth, gan annog hyblygrwydd a mynegiant effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Lefel Mynediad/Lefel 1 yn y pwnc hwn.
Bydd yn datblygu ymhellach y ddealltwriaeth gysyniadol y mae dysgwyr wedi'i meithrin drwy eu haddysg Cwricwlwm i Gymru rhwng 3 ac 14 oed.
Mae hefyd yn ymwneud â'r pedwar diben a'r egwyddorion cynnydd ac yn eu cefnogi. Bydd y cymhwyster yn gweithredu fel sylfaen eang ar gyfer symud ymlaen i astudio TGAU Iaith a Llenyddiaeth Saesneg drwy ganolbwyntio ar ddealltwriaeth a sgiliau tebyg.
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.