CBAC Cymhwyster Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Dylunio a Thechnoleg
Ynglŷn â'r Cymwysterau Sylfaen Cyffredino mewn Dylunio a Thechnoleg
Drwy'r broses ddylunio a datblygu, bydd y cymhwyster hwn yn caniatáu i ddysgwyr archwilio ac ymateb i gyd-destunau amrywiol ac i adfyfyrio ar eu gwaith eu hunain.
Ar yr un pryd, byddan nhw hefyd yn ymwneud â phrofiadau sy'n gyfoethog ac yn ddilys. Bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth graidd yn seiliedig ar faterion Iechyd a Diogelwch ochr yn ochr â chynnwys manwl yn un o'r llwybrau canlynol:
- Dylunio Peirianyddol
- Ffasiwn a Thecstilau
- Dylunio Cynnyrch.
Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â thasg dylunio a gwneud dwys a manwl.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Fynediad 1 i Lefel 1 yn y pwnc hwn. Bydd yn datblygu ymhellach y ddealltwriaeth gysyniadol y mae dysgwyr wedi'i meithrin drwy eu haddysg Cwricwlwm i Gymru rhwng 3 ac 14 oed.
Mae hefyd yn ymwneud â'r pedwar diben a'r egwyddorion cynnydd ac yn eu cefnogi. Bydd y cymhwyster yn gweithredu fel sylfaen eang ar gyfer symud ymlaen i astudio TGAU Dylunio a Thechnoleg drwy ganolbwyntio ar ddealltwriaeth a sgiliau tebyg.