CBAC TAAU Lefel 1/Lefel 2 Lletygarwch ac Arlwyo
Gall addysgu a dysgu ei gwneud yn ofynnol i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â materion sensitif. Er mwyn cefnogi ymarferwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym wedi datblygu dogfen ganllawiau newydd ar gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth. Gallwch gael mynediad i'n canllawiau drwy'r cyswllt canlynol.
Ynglŷn â'r TAAU mewn Lletygarwch ac Arlwyo
Mae'r cymhwyster hwn yn darparu sgiliau ymarferol a gwybodaeth am y diwydiant ar gyfer un o sectorau cyflogaeth mwyaf Cymru yn yr economi ymwelwyr. Gydag unedau gorfodol ar rolau yn y diwydiant a diogelwch bwyd, ynghyd ag opsiwn ymarferol i goginio a pharatoi seigiau neu gynnal digwyddiad lletygarwch, mae'n cyfuno gwybodaeth â phrofiad ymarferol.
Mae hefyd yn cynnwys y Dystysgrif Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd, Hylendid ac Alergenau, gan roi hwb i gyflogadwyedd a bodloni safonau'r diwydiant ar gyfer arlwyo diogel, cynhwysol.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae ein cymhwyster Lefel 1/2 TAAU Lletygarwch ac Arlwyo, sydd wedi'i lunio i fod yn gyfochrog â chymwysterau TGAU, yn cynnig profiad galwedigaethol ymarferol sy'n ehangu dysgu i ddysgwyr 14 i 16 oed mewn ysgolion.
Mae'n ddelfrydol i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd o fewn y meysydd gwasanaeth bwyd, arlwyo, neu reoli digwyddiadau, ac ar gyfer dysgwyr y maen well ganddyn nhw dasgau galwedigaethol, byd go iawn yn hytrach nag astudio academaidd yn unig. Gydag unedau gorfodol ar ddiogelwch bwyd a rolau yn y diwydiant, ynghyd ag opsiynau ymarferol, mae'n addas i ysgolion sy'n ceisio ennyn diddordeb dysgwyr a'u paratoi ar gyfer y byd gwaith neu astudiaeth bellach.