Dysgwyr yn astudio yn dosbarth

Trydedd set o fanylebau drafft Gwneud-i-Gymru Ton 3 ar gael yn awr

Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r drydedd set o fanylebau drafft ar gyfer trydedd don ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru. Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys cymwysterau TAAU a chymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith, gan gynnig llwybrau dysgu pellach i ddysgwyr ledled Cymru. 

Bellach ar gael i'w gweld ar-lein, mae'r manylebau drafft hyn wedi'u cyflwyno i Cymwysterau Cymru eu cymeradwyo, gyda'r bwriad i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027. 

Wrth sôn am y cyhoeddiad diweddaraf hwn, dywedodd Sarah Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Datblygu Cymwysterau (Cymwysterau Galwedigaethol a Sgiliau): 

"Rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r set ddiweddaraf o fanylebau drafft ar gyfer ein cymwysterau Ton 3 diddorol ac arloesol. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'n hawduron, ein hadolygwyr a'n grwpiau cynghori, yn ogystal â'n timau pwnc a'n tîm datblygu cymwysterau, am eu harbenigedd, eu hymrwymiad, a'u cyfraniadau gwerthfawr drwy gydol y broses ddatblygu. 

Mae cydweithio wedi bod wrth wraidd y gwaith hwn. Drwy ymgysylltu'n helaeth ag ymarferwyr, cyflogwyr, dysgwyr, a rhanddeiliaid allweddol eraill, rydym wedi sicrhau bod gwaith llunio pob cymhwyster wedi'i lywio gan amrywiaeth eang o safbwyntiau. 

O ganlyniad, rydym yn hyderus y bydd y manylebau hyn yn cefnogi system addysg fodern, gynhwysol a blaengar sy'n adlewyrchu dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru. 

Mae pob cymhwyster wedi'i ddatblygu'n ofalus i ysbrydoli dysgwyr ledled Cymru, gan roi'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn astudiaethau pellach a chyflogaeth ac mewn cymdeithas fyd-eang sy'n fwyfwy dynamig." 

Mae ein manylebau drafft, a gynlluniwyd i fodloni Meini Prawf Cymeradwyo Cymwysterau Cymru, ar gael ar dudalen y pwnc: 

Cymwysterau TAAU: Lefel 1 / 2:

Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith: Lefel Mynediad / Lefel 1:

Noder, oherwydd cyfyngiadau rheoleiddiol, ni allwn gyhoeddi'r manylebau terfynol wedi'u cymeradwyo tan fis Medi. 

Canllawiau Cyflym – dod i adnabod eich cymhwyster  

Ochr yn ochr â'n manylebau drafft, mae ein timau pwnc wedi cynhyrchu 'Canllawiau Cyflym' i roi trosolwg clir a hygyrch o'r cymwysterau newydd cyffrous hyn.  

  • Pwrpas a throsolwg o'r cymhwyster 
  • Strwythur y cymhwyster 
  • Proffil y dysgwr targed 
  • Dull asesu  

Lawrlwythwch eich Canllawiau Cyflym yma.  

Cael y wybodaeth ddiweddaraf  

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau newydd, ewch i'n hardal 'Gwneud-i-Gymru' ar y wefan. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.