CBAC TAAU Lefel 1/Lefel 2 Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid
Ynglŷn â'r TAAU mewn Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid
Mae adwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid yn cyfrannu'n fawr at economi Cymru, gan gynnig cyflogaeth a chefnogi cymunedau.
Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i archwilio'r sector, ymchwilio i lwybrau gyrfa a meithrin gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau sy'n hanfodol i wasanaeth cwsmeriaid ac adwerthu.
Mae dysgwyr yn archwilio datblygiadau adwerthu modern fel marchnata cyfryngau cymdeithasol, hyrwyddo gan ddylanwadwyr a siopa ar-lein, wrth ddatblygu sgiliau hanfodol fel cyfathrebu, datrys problemau, gwaith tîm a chymhwysedd digidol.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae ein cymhwyster Lefel 1/2 TAAU Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid wedi'i lunio i fod yn gyfochrog â chymwysterau TGAU, gan gynnig profiad galwedigaethol ymarferol sy'n ehangu dysgu i ddysgwyr 14 i 16 oed mewn ysgolion.
Mae'n cynnig llwybr strwythuredig i ddeall natur amrywiol y diwydiannau adwerthu a gwasanaeth cwsmeriaid a chyfleoedd gyrfa y mae'r sector yn eu cynnig.
Mae'n darparu sylfaen ardderchog ar gyfer astudio ymhellach mewn adwerthu, gwasanaeth cwsmeriaid a busnes, sydd yn ei dro, yn cefnogi symud ymlaen i fyd gwaith.