CBAC Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Teithio a Thwristiaeth

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info
Ynglŷn â'r Cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith mewn Teithio a Thwristiaeth
Mae'r diwydiant teithio a thwristiaeth yn fywiog, wedi'i gysylltu'n fyd-eang ac yn cynnig amrywiaeth eang o rolau.

Mae'r cymhwyster hwn yn cyflwyno testunau allweddol fel sectorau'r diwydiant, cyrchfannau a'u nodweddion, a rhesymau dros deithio. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol, fel ymchwilio, cynllunio a chyfathrebu, drwy dasgau byd go iawn.

Mae'n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru ac yn meithrin gwybodaeth ar gyfer symud ymlaen i astudiaethau galwedigaethol neu gyflogaeth.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Lefel Mynediad a Lefel 1 sydd eisiau archwilio Teithio a Thwristiaeth drwy dasgau ymarferol.

Mae'n ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn deall y diwydiant, cyrchfannau twristiaeth a pham mae pobl yn teithio tra hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol, trosglwyddadwy.

Mae'r cwrs wedi'i anelu at y rheiny y mae'n well ganddynt ddysgu ymarferol, yn y byd go iawn ac mae'n gweithredu fel sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen i astudiaethau galwedigaethol pellach neu rolau lefel mynediad yn y diwydiant.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Emma Vincent 
Oes gennych chi gwestiwn?
Emma Vincent 
phone_outline 02920 265483
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?