CBAC TAAU Lefel 1/Lefel 2 Gwasanaethau Cyhoeddus

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info

Ynglŷn â'r TAAU mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn chwarae rhan allweddol yn y gymdeithas yng Nghymru, gan sicrhau iechyd, diogelwch, addysg a llesiant y gymuned.

Maen nhw'n ffurfio un o'r sectorau cyflogaeth mwyaf yng Nghymru, gan gynnig cyfleoedd ar draws gofal iechyd (GIG), gwasanaethau brys, llywodraeth leol, addysg a'r lluoedd arfog.

Mae'r sector yn cefnogi isadeiledd hanfodol, yn hybu tegwch cymdeithasol, ac yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ddysgwyr i faes lle mae cyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon – boed hynny drwy rolau rheng flaen neu drwy arweinyddiaeth strategol.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?

Mae ein cymhwyster Lefel 1/2 TAAU Gwasanaethau Cyhoeddus wedi'i lunio fel dewis galwedigaethol diddorol arall neu i ategu cymwysterau TGAU ar gyfer dysgwyr 14–16 oed mewn ysgolion.

Mae'n cynnig llwybr strwythuredig i ddeall y cyfleoedd gyrfa amrywiol yn y gwasanaethau cyhoeddus ac yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer astudio ymhellach a fyddai, yn ei dro, yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i fyd gwaith.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Kerri David
Oes gennych chi gwestiwn?
Kerri David
phone_outline 02920 265495
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?