CBAC Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Amgylchedd Adeiledig

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info

Ynglŷn â'r Cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith mewn Amgylchedd Adeiledig

Mae'r amgylchedd adeiledig yn sector enfawr sy'n cael effaith uniongyrchol ar fywydau pob dydd dysgwyr.

Bydd y cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i wneud synnwyr o'r lleoedd o'u cwmpas nhw, i werthfawrogi'r amgylchedd adeiledig yng Nghymru ac i ddatblygu sgiliau ymarferol penodol.

Mae'n sector cyffrous i ddysgwyr ei archwilio gan ei fod yn cyflogi bron i bedair miliwn o bobl yn y DU. 

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?

Mae'r Cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith mewn Amgylchedd Adeiledig wedi'i lunio i hyrwyddo profiadau galwedigaethol cadarnhaol i ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed mewn ysgolion a cholegau.

Mae'n cynnig llwybr strwythuredig i ddeall natur amrywiol yr amgylchedd adeiledig a'r rolau swyddi yn y sector.

Mae'n gweithredu fel sylfaen ardderchog i alluogi dysgwyr i symud ymlaen i hyfforddiant neu ddysgu ôl-16 ac, lle bo'n briodol, i astudio cymwysterau TGAU neu TAAU.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Allan Perry
Oes gennych chi gwestiwn?
Allan Perry
phone_outline 02920 265311
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Allan Perry