CBAC Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info
Ynglŷn â'r Cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant yn sectorau hanfodol yng Nghymru, yn cynnig miloedd o yrfaoedd gwerth chweil. Mae'r cymhwyster hwn yn cyflwyno egwyddorion allweddol fel diogelu, cyfathrebu, a gwerthoedd gofal, ochr yn ochr â sgiliau ymarferol drwy senarios byd go iawn. 

Mae'n cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru ac yn meithrin gwybodaeth ar gyfer symud ymlaen i astudiaethau galwedigaethol neu gyflogaeth.Gyda thasgau ymarferol a dysgu adfyfyriol, mae'n paratoi dysgwyr i ddeall a chymhwyso hanfodion gofal diogel, effeithiol. 

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr rhwng 14 ac 16 oed sy'n gweithio ar Lefel Mynediad a Lefel 1 ac sydd eisiau archwilio iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant drwy dasgau ymarferol.

Mae'n addas i'r rheiny sydd â diddordeb mewn deall egwyddorion gofal, diogelu a chyfathrebu tra'n datblygu sgiliau trosglwyddadwy fel empathi, gwaith tîm, a datrys problemau.

Mae'n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr y mae'n well ganddynt senarios go iawn dros astudiaeth hollol ddamcaniaethol, mae'n gweithredu fel sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen i gyrsiau galwedigaethol neu rolau lefel mynediad yn y sectorau hanfodol hyn.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Susanne Allcroft
Oes gennych chi gwestiwn?
Susanne Allcroft
phone_outline 02920 265345
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?