CBAC TAAU Lefel 1/Lefel 2 Chwaraeon a Hamdden

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info
Ynglŷn â'r TAAU mewn Chwaraeon a Hamdden
Mae chwaraeon a hamdden yn chwarae rhan allweddol yn y gymdeithas yng Nghymru, gan hybu iechyd, llesiant, cynhwysiant ac ymgysylltu â'r gymuned wrth gynnig cyfleoedd gyrfa amrywiol.


Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i archwilio'r sector, ymchwilio i lwybrau gyrfa, deall sut mae mentrau yn hybu cyfranogiad a llesiant, a datblygu sgiliau ymarferol mewn perfformio, arwain a hyfforddi. Mae dysgwyr yn cwblhau asesiadau sy'n arddangos eu sgiliau ymarferol a pha mor barod ydyn nhw ar gyfer dysgu pellach neu waith.


Drwy'r profiadau hyn, maen nhw'n datblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r sector, gan fagu hyder a hyfedredd wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer astudiaethau pellach neu yrfaoedd mewn chwaraeon a hamdden. 


Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae ein cymhwyster Lefel 1/2 TAAU Chwaraeon a Hamdden wedi'i lunio i fod yn gyfochrog â chymwysterau TGAU, gan gynnig profiad galwedigaethol ymarferol sy'n ehangu dysgu i ddysgwyr 14 i 16 oed mewn ysgolion.


Mae'n addas i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn deall sut mae'r sector yn hybu iechyd, llesiant a chyfranogiad cymunedol, ac sydd eisiau archwilio gyrfaoedd cysylltiedig.

Mae dysgwyr yn datblygu sgiliau perfformio, arwain neu hyfforddi ac yn cwblhau gweithgareddau neu brojectau sy'n cefnogi symud ymlaen i astudio ymhellach neu ymuno â'r byd gwaith.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Kerri David
Oes gennych chi gwestiwn?
Kerri David
phone_outline 02920 265495
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?