CBAC Sylfaen Lefel Mynediad / Lefel 1 Cynhyrchu Creadigol a’r Cyfryngau, a Thechnoleg

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info

Ynglyn â'r Cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith mewn Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg

Mae'r diwydiannau creadigol yn sector twf dynamig yng Nghymru, sy'n cael ei lywio gan arloesi digidol a busnesau lleol sy'n ffynnu.

Maent yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa ar draws sectorau allweddol fel ffilm a theledu, digidol a chwarae gemau fideo, cyhoeddi, a dylunio.

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ddysgwyr i'r maes bywiog hwn, sy'n cyflogi dros 100,000 o bobl ac yn cyfrannu mwy na £1.5 biliwn at economi Cymru bob blwyddyn.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?

Mae'r Cymhwyster Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith mewn Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg wedi'i lunio i hyrwyddo profiadau galwedigaethol cadarnhaol i ddysgwyr rhwng 14 ac 16 oed mewn ysgolion sy'n gweithio ar Lefel Mynediad hyd at Lefel 1.

Bydd yn addas i'r dysgwyr hynny sydd â diddordeb mewn ennill profiad ymarferol o gynllunio a chreu cynnyrch i'r cyfryngau. Mae'n cynnig llwybr strwythuredig i ddeall y diwydiannau creadigol a'r cyfryngau a'r prosesau creadigol, ac mae'n gweithredu fel sylfaen ardderchog i alluogi dysgwyr i symud ymlaen i hyfforddiant neu ddysgu ôl-16 ac, lle bo'n briodol, i astudio TGAU neu TAAU.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Jenny Stewart
Oes gennych chi gwestiwn?
Jenny Stewart
phone_outline 02920 265195
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Jenny Stewart