CBAC TAAU Lefel 1/Lefel 2 Y Celfyddydau Perfformio
Ynglŷn â'r TAAU mewn Celfyddydau Perfformio
Mae'r diwydiant Celfyddydau Perfformio yn ganolog i dirwedd ddiwylliannol Cymru, gan gynnig dau lwybr – perfformio a chynhyrchu – ar draws disgyblaethau amrywiol.
Mae'r cymhwyster hwn yn helpu dysgwyr i ddeall cwmpas y sector, rolau swyddi, a chyfleoedd gyrfa. Drwy weithgareddau ymarferol, byddan nhw'n archwilio gwaith proffesiynol a gwaith wedi'i ddyfeisio wrth ddatblygu sgiliau mewn perfformio, cynhyrchu, neu'r ddau.
Mae asesiadau'n arddangos eu galluoedd ac yn dyfnhau gwybodaeth, gan feithrin hyder a hyfedredd wrth iddyn nhw baratoi i astudio ymhellach neu i ddilyn prentisiaethau neu yrfaoedd yn y diwydiant bywiog, creadigol hwn.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?
Mae ein cymhwyster Lefel 1/2 TAAU Celfyddydau Perfformio wedi'i lunio i fod yn gyfochrog â chymwysterau TGAU, gan gynnig profiad galwedigaethol ymarferol sy'n ehangu dysgu i ddysgwyr 14 i 16 oed mewn ysgolion.
Mae'n cynnig llwybr strwythuredig i ddeall natur amrywiol y diwydiant Celfyddydau Perfformio a'r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael. Mae'n addas i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn pynciau creadigol, sy'n seiliedig ar sgiliau ac mae'n darparu sylfaen ardderchog ar gyfer astudio ymhellach, sydd yn ei dro, yn cefnogi symud ymlaen i fyd gwaith.