Yn anhapus â'ch canlyniadau?

Os oes gennych chi gwestiwn am eich canlyniadau, siaradwch â'r staff yn eich ysgol neu goleg – byddan nhw'n gallu cynnig cyngor ac arweiniad i chi. 

 


 

Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau

 

Gall eich ysgol neu goleg wneud cais am un o'n 'Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau'. Rhaid i chi roi eich caniatâd i'ch ysgol a'ch coleg cyn iddynt wneud cais ar eich rhan am wasanaeth ar ôl y canlyniadau.

 

Mae'r gwasanaethau canlynol ar gael:

  • Dychwelyd sgriptiau: rydyn ni'n darparu copi electronig o'ch papurau arholiad
  • Adolygiad o'r marcio: rydynni'n adolygu'r marcio i sicrhau bod eich gwaith wedi'i farcio'n gywir yn unol â'r cynllun marcio
  • Ail-wiriad clerigol: rydyn ni'n ail-wirio bod pob marc wedi'i gynnwys a'i adio'n gywir.

Os yw eich ysgol neu goleg o'r farn ein bod wedi gwneud camgymeriad wrth asesu eich gwaith, gallant wneud cais am adolygiad ar eich rhan. Os ydych chi'n ymgeisydd preifat, gallwch chi wneud cais yn uniongyrchol i ni. Gallai eich gradd fynd i fyny, mynd i lawr, neu aros yr un fath ar ôl ail-wiriad clerigol neu adolygiad o'r marcio. Mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys terfynau amser, i'w chael yma.

 


 

Aros am le yn y brifysgol?


Rydyn ni'n cynnig gwasanaeth adolygiad o’r marcio blaenoriaethol i fyfyrwyr y mae eu lle yn y brifysgol mewn perygl. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'ch ysgol neu goleg cyn gynted â phosibl fel y gallant wneud cais am adolygiad yn ddi-oed – y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 24 Awst.

 


 

Apeliadau


Os yw eich ysgol neu goleg o'r farn bod camgymeriad o hyd ar ôl yr adolygiad o'r marcio, gallant gyflwyno apêl ar eich rhan. Gall eich ysgol neu goleg roi gwybodaeth bellach a chefnogaeth i chi. Gall ymgeiswyr preifat wneud cais yn uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod yn deall y pwyntiau canlynol:

  • Rhaid i'ch ysgol/coleg wneud cais am 'Wasanaeth ar ôl y Canlyniadau' a derbyn ymateb gennym cyn gwneud cais am apêl
  • Gallai eich gradd fynd i fyny, mynd i lawr, neu aros yr un fath ar ôl apêl
  • Rhaid i chi roi eich caniatâd i'ch ysgol neu'ch coleg cyn iddynt wneud cais ar eich rhan am apêl.

Bydd canlyniadau apêl yn cael eu trosglwyddo i'ch ysgol/coleg o fewn yr amseroedd sydd wedi'u cyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yma.

 


 

Blogiau ac Erthyglau

Personality quiz