Cefnogaeth a Chysylltau

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am eich canlyniadau eleni, gallech wneud hyn: 

 

Darllen ein gwybodaeth - dylai'r wybodaeth sydd i'w gweld ar ein tudalennau diwrnod y canlyniadau, ein Canllaw i Ganlyniadau, a'n tudalennau Cefnogaeth i Fyfyrwyr helpu i ddarparu atebion. 

 

Siarad ag athro – dylai eich ysgol neu goleg fod wedi rhoi manylion cyswllt i chi fel y gallwch chi drafod eich canlyniadau ag aelod o'r staff. 

 

Cysylltu â ni - os byddai’n well gennych chi gysylltu â'n tîm, rydym yn eich cynghori i anfon neges e-bost atom, bydd hyn yn gwneud yn siŵr ein bod yn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i'ch ymholiad. 

  • Anfon e-bost i gael ymateb cyflymach -
  • Ffoniwch ni ar - 029 2026 5000


 

Gwybodaeth ychwanegol 

 

Siarad â'ch coleg neu brifysgol.

 

Cysylltwch ag UCAS am wybodaeth a chyngor ynghylch derbyniadau i brifysgolion a cholegau. 

Ffôn: 0371 468 0 468 

www.ucas.com 

  

Mae gwybodaeth reoleiddiol ar gael gan Cymwysterau Cymru. 

Ffôn: 01633 373 222 

www.qualificationswales.org   

ymholiadau@cymwysteraucymru.org

  

Mae gan Gomisiynydd Plant Cymru wybodaeth ar gyfer dysgwyr ynghylch cymwysterau a chamau nesaf ar gyfer 2021 

www.complantcymru.org.uk


 

Cefnogaeth iechyd meddwl 

 

Mae'n bwysig i chi siarad â rhywun os ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n brwydro â'ch iechyd meddwl. Gallai hyn fod yn athro/athrawes neu aelod arall o staff yn eich ysgol/coleg, perthynas, neu rywun sy'n gweithio'n broffesiynol yn y maes gofal iechyd. Mae rhai cysylltau defnyddiol i'w gweld isod hefyd. 

  

Hwb – Porth Llywodraeth Cymru yn cynnig llawer o linellau cymorth a gwasanaethau cyfrinachol 

Mind – un o'r prif sefydliadau iechyd meddwl yn y wlad. 

Ffôn: 0300 123 3393, 

info@mind.org.uk 

  

Childline 

Rhif ffôn 0800 11 11 

Young Minds – Elusen sy'n rhoi adnoddau a chefnogaeth i bobl ifanc a rhieni